
Rhaglen Waith
Mae ymgynghori ag arweinwyr Polisi, GIG a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn allweddol i ddatblygu ac ateb y cwestiynau ymchwil cywir yng Nghanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hyn yn helpu i sicrhau y gellir defnyddio ein hymchwil i wella polisi ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol yn uniongyrchol.
Rhaglen waith synthesis tystiolaeth gyflym
Teitl yr Astudiaeth | Sut y bydd y dystiolaeth yn cael ei defnyddio | Grŵp Rhanddeiliaid |
---|---|---|
Sut gall Gofal Iechyd a dulliau economaidd iechyd seiliedig ar werth lywio penderfyniadau yng Nghymru yn well? | Llywio dulliau dadansoddi cost-effeithiolrwydd gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth | Yr Is-adran Gwyddoniaeth, Ymchwil a Tystiolaeth, Llywodraeth Cymru |
Nodi’r Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) ac a ddilyswyd at ddibenion cyflawni nodau neu newid mewn swyddogaeth i'w defnyddio gan y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs) a thimau aml-broffesiwn ledled Cymru | Llywio datblygu’r dangosfwrdd data at ddefnydd AHPs a gwasanaethau adsefydlu ledled Cymru | Fframwaith Iechyd Perthynol Proffesiynol Cymru |
Effeithiolrwydd yr ymyriadau a wneir i wella ecwiti mewn canlyniadau iechyd ar gyfer cleifion ag anableddau dysgu sy'n derbyn cymorth y gwasanaeth cyswllt | Llywio’r cynllun gweithredu strategol anableddau dysgu | Y Tîm Anableddau Dysgu |
Effeithiolrwydd yr ymyriadau i gefnogi iechyd a lles meddyliol ac emosiynol mewn pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant | Llywio’r gwaith o ddatblygu rhaglenni’r Bwrdd Iechyd | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Pa strategaethau aml-asiantaeth sydd wedi'u rhoi ar waith i sicrhau parhad gofal wrth bontio o wasanaethau gofal cymdeithasol i blant i ofal cymdeithasol i oedolion? | Llunio cynnwys a ffocws sioeau teithiol sy’n cael eu cynnal gan Gofal Cymdeithasol Cymru i awdurdodau lleol, gan dynnu sylw at strategaethau aml-asiantaeth effeithiol ar gyfer cefnogi pontio | Gofal Cymdeithasol Cymru |
Pa dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn ag ymyriadau i wella cynhwysiant a hygyrchedd seilwaith teithio llesol i bobl anabl, plant ac oedolion hŷn a lleihau anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol-economaidd ymysg y poblogaethau hyn? | Llywio gwaith diweddaru a mireinio'r canllawiau o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r dystiolaeth orau gyfredol ar hygyrchedd a chynhwysiant | Trafnidiaeth Cymru – Teithio Llesol |
Beth yw effaith ymarferwyr iechyd cyhoeddus yn y gymuned (e.e. Metronau Cymunedol, Ymwelwyr Iechyd Pobl Hŷn) ar ganlyniadau iechyd a lles ymysg oedolion hŷn? | Llywio datblygiad polisi ar gyflwyno iechyd cyhoeddus cymunedol ar gyfer oedolion hŷn yn rhan o wasanaethau iechyd cymunedol yng Nghymru | Llywodraeth Cymru - Gofal Sylfaenol a Chymunedol |
Pa ddulliau sydd wedi'u defnyddio i roi taliadau uniongyrchol ar waith yn y systemau iechyd, a sut mae ffactorau amrywiol yn dylanwadu ar effeithiolrwydd y dulliau hyn wrth gefnogi personoli, llywodraethu a mynediad teg at ofal? | Cefnogi Llywodraeth Cymru i roi taliadau uniongyrchol ar waith ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG | Llywodraeth Cymru - Tîm Taliadau Uniongyrchol a Pholisi Anabledd |
Rhaglen waith ymchwil sylfaenol
Teitl yr Astudiaeth | Sut y bydd y dystiolaeth yn cael ei defnyddio | Grŵp Rhanddeiliaid |
---|---|---|
Gwyddor Data Poblogaeth | ||
Nodi ffactorau rhagfynegol sy'n gysylltiedig â digwyddiadau gwaedu neu ddigwyddiad thrombotig. | Sylfaen dystiolaeth ar gyfer rhoi gwybodaeth am risg a buddion i gleifion drwy'r offeryn cymorth penderfyniadau "Co-Clarity" sy'n cael ei ddatblygu a'i werthuso yn rhaglen Serenity, ac sydd i'w roi ar waith wrth ddarparu gofal arferol mewn systemau iechyd ledled Ewrop, gan gynnwys Cymru. | Yr Athro Simon Noble (Athro Meddygaeth Lliniarol) |
Sut mae cyrchu presgripsiwn Therapi Amnewid Hormonau (HRT) yn wahanol i fenywod ledled Cymru? | Bydd y dystiolaeth yn cael ei defnyddio i ddatblygu strategaethau ar gyfer lleihau anghydraddoldebau o ran cyrchu a sicrhau nad yw menywod mewn cymunedau llai difreintiedig a grwpiau ymylol dan anfantais wrth gael mynediad at Therapi Amnewid Hormonau. | Prif Swyddog Fferyllol Cymru |
Beth yw effaith gwasanaeth argyfwng integredig rhanbarthol Safe@Home ar leihau derbyniadau y gellir eu hosgoi i’r ysbyty a gwella deilliannau i gleifion? | Trwy ddangos effeithiolrwydd Safe@Home, bydd canfyddiadau yn arwain gwaith datblygu ac integreiddio modelau tebyg ledled Cymru yn y dyfodol. | Safe@Home, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Mewnol | ||
Gwerthusiad o Wasanaethau Iechyd Merched yng Nghymru - Barn nyrsys endometriosis a chydlynwyr iechyd a lles pelfig ar eu rolau: gwerthusiad gwasanaeth | Llywio polisi a darpariaeth gwasanaeth barhau s yn y maes hwn | Cyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio (polisi) |
Beth yw'r enillion ar fuddsoddiad ar gyfer y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru (NERS) ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd cronig? | Bydd yr ymchwil hon yn galluogi Gweinidogion a llunwyr polisïau i ddeall cost system NERS a'r manteision cysylltiedig. Bydd y dystiolaeth hon yn hwyluso penderfyniadau ynghylch buddsoddiad ehangach yn NERS ac yn dangos ei werth, gan arwain at fwy o ddarpariaeth yng Nghymru i'r rhai sy'n byw â chyflyrau iechyd cronig y gellid eu rheoli drwy raglenni ymarfer corff, a lleihau'r galw ar wasanaethau ysbytai ac iechyd. | Arweinydd ymgynghorol ar gyfer NERS yng Nghymru |
Profiad gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy (AMHPs) o rôl gwell recriwtio, cadwraeth a lles a’r ffactorau a all gefnogi hynny | Mae sefydlogrwydd y gweithlu yn y dyfodol yn dibynnu ar wybod sut i dderbyn hyfforddiant, recriwtio ar gyfer y swydd, a chadw staff. Bydd canfyddiadau’n arwain strategaethau recriwtio a chadw a chyrsiau hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl. | Gofal Cymdeithasol Cymru |
Barn staff gofal eilaidd o'r Gwasanaethau Cyswllt Anableddau Dysgu yng Nghymru: gwerthusiad gwasanaeth. | Nod cyffredinol y Gwasanaethau Cyswllt Iechyd Anableddau Dysgu ym mhob bwrdd iechyd yw gwella ansawdd a diogelwch y ddarpariaeth mewn gofal eilaidd gan sicrhau gwasanaeth teg a diogel. Bydd canfyddiadau'n cael eu defnyddio i arwain gwaith cynllunio cyflwyno gwasanaethau. | Gwella Anableddau Dysgu Cymru |
Dyma Raglen Waith Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru arfaethedig Mehefin 2025 - Mehefin 2026. Gellir diwygio'r rhaglen hon os bydd anghenion tystiolaeth polisi / ymarfer yn newid (gellir addasu neu ddileu prosiectau presennol, a gellir ychwanegu cwestiynau â blaenoriaeth uchel).