Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae ein Canolfan wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant ym mhob agwedd ar y Ganolfan Dystiolaeth a'i rhaglenni gwaith a'i strwythur tîm.

Mae ein fframwaith gwerthoedd yn seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, yn gyson â ffocws Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym hefyd yn ceisio nodi lle y gellir cael y gwerth mwyaf trwy ein gwaith, yn gymaint â'r nod culach o gost-effeithiolrwydd.

Mae gennym brofiad o ymgysylltu a gweithio gyda grwpiau nas gwasanaethir yn ddigonol. Rydym wedi ymgysylltu â nifer o grwpiau o’r fath nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol (gan gynnwys grwpiau lleiafrifoedd ethnig, pobl iau, grwpiau incwm is, a phobl anabl) a gafodd eu heffeithio’n fwy difrifol gan bandemig COVID-19 i archwilio eu profiadau a’u blaenoriaethau ymchwil.

Rydym yn gweithredu mewn dull amlddisgyblaethol parchus a chynhwysol sy’n ymestyn ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector a chyda phartneriaid academaidd a diwydiant. Rydym wedi ymrwymo i gydweithio, o fewn ein canolfan, ei phartneriaid a'r rhwydwaith a ddisgrifir uchod, a chyda Chanolfannau allanol.