Polisi Preifatrwydd

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a gasglwyd gan www.CanolfanDystiolaethYmchwilCymru.co.uk

Ariennir Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae gwefan Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cael ei rheoli gan dîm Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.  

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) 
O dan GDPR, mae gennych hawliau fel unigolyn, y gallwch eu harfer mewn perthynas â’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. 

Eich rhyngweithio â'r wefan hon 
Pan fydd rhywun yn ymweld â www.CanolfanDystiolaethYmchwilCymru.co.uk rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Dim ond mewn ffordd ddienw y mae'r wybodaeth hon yn cael ei phrosesu nad yw'n nodi unrhyw un yn unigol. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymgais i ddarganfod pwy yw'r rhai sy'n ymweld â'n gwefan,  ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hynny. Os ydym am gasglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy trwy ein gwefan, byddwn yn nodi hyn yn agored. Byddwn yn ei gwneud yn glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn egluro beth rydym yn bwriadu ei wneud â hi. 

Darllenwch ddogfennau Polisi Preifatrwydd Google a Thelerau Gwasanaeth Google i gael gwybodaeth fanwl.  

Chwilotwr 
Caiff ymholiadau a chanlyniadau chwilio eu cofnodi'n ddienw i'n helpu i wella ein gwefan a'n swyddogaeth chwilio. Nid oes unrhyw ddata defnyddiwr-benodol yn cael ei gasglu gan naill ai Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru nac unrhyw drydydd parti. 

Dolenni i wefannau eraill 
Nid yw'r polisi preifatrwydd hwn yn cwmpasu'r dolenni o fewn y wefan hon sy'n cysylltu â gwefannau eraill. Rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw. 

Cwcis  
Manylion am gwcis ar www.CanolfanDystiolaethYmchwilCymru.co.uk

Newidiadau i'r Polisi Preifatrwydd Hwn 
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn diweddaru'r fersiwn ar y dudalen hon.  

Gallwch ymweld â'r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r wybodaeth a gesglir gennym, ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu ag unrhyw un arall.  Fersiwn: 

Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 14 Chwefror 2023. 

Rhagor o wybodaeth 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn defnyddio’ch data, ysgrifennwch atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol: healthandcareevidence@caerdydd.ac.uk.