
Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Croeso i Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae ein tîm ymroddedig yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, y GIG, gofal cymdeithasol, sefydliadau ymchwil a’r cyhoedd i gyflawni ymchwil hanfodol i fynd i’r afael â’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n wynebu Cymru.
Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’r Ganolfan yn ateb cwestiynau allweddol i wella polisi a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Ynghyd â'n partneriaid cydweithio, rydym yn cynnal adolygiadau o dystiolaeth bresennol ac ymchwil newydd, i lywio anghenion polisi ac arfer, gyda ffocws ar sicrhau effaith yn y byd go iawn a budd cyhoeddus sy'n cyrraedd pawb.