Researchers looking at documents

Adolygu tystiolaeth ymchwil bresennol

Mae tîm Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a phartneriaid cydweithio yn adolygu ac yn adrodd ar dystiolaeth o astudiaethau ymchwil sydd eisoes wedi’u cynnal, gan sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cael gwybodaeth sy’n hygyrch, yn gyfredol ac yn berthnasol i Gymru.

Mae'r Ganolfan yn ymdrin ag ystod eang o feysydd pwnc a chwestiynau adolygu. Ymdrinnir â phob cwestiwn adolygu yn wahanol, gan ddibynnu ar angen, brys, a chymhlethdod y pwnc.

Mae’r math o adroddiadau a gynhyrchir gan y Ganolfan yn cynnwys y canlynol:

Crynodebau Tystiolaeth Cyflym | Mae'r adroddiadau hyn yn rhoi crynodeb bras o'r dystiolaeth ymchwil sydd ar gael sy'n mynd i'r afael â chwestiwn penodol. (Amserlen: 1 – 2 wythnos

Mapiau Tystiolaeth Ymchwil | Mae'r adroddiadau hyn yn rhoi disgrifiad manwl, neu restr, o'r dystiolaeth ymchwil sydd ar gael (ond ni chynhelir dadansoddiad o'r canlyniadau). Maent yn addas ar gyfer cwestiynau ymchwil eang neu gymhleth a gellir eu defnyddio i ddewis ffocws ar gyfer adolygiad manwl pellach neu i nodi bylchau yn y dystiolaeth ymchwil. (Amserlen: 1 – 2 fis)

Adolygiad Cyflym | Mae'r adroddiadau hyn yn rhoi archwiliad o'r dystiolaeth sydd ar gael o fewn cyfnod byr. Maent yn seiliedig ar ddulliau adolygu systematig, ond mae rhannau o'r broses yn cael eu symleiddio neu eu hepgor. (Amserlen: 3 – 4 mis)

Adolygiadau Systematig | Mae'r adroddiadau hyn yn darparu archwiliad cynhwysfawr, trwyadl a thryloyw o'r dystiolaeth gan ddefnyddio dulliau safonedig i leihau rhagfarn a chamgymeriadau. (Amserlen: 6 – 18 mis).

Adolygiad o Adolygiadau (adolygiadau 'Ymbarél') | Mae hwn yn adolygiad o adolygiadau tystiolaeth presennol; mae pob un o'n hadolygiadau yn defnyddio adolygiadau presennol, lle bo modd, i osgoi dyblygu.

 

Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru

Datblygwyd y broses adolygu tystiolaeth a'r dulliau a ddefnyddiwyd gan y Ganolfan Dystiolaeth i ddechrau ar gyfer Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (WCEC). Roedd y pandemig yn ei gwneud yn ofynnol i'r broses adolygu gyflwyno adolygiadau cadarn o fewn pedair i wyth wythnos ond gyda hyblygrwydd i roi crynodeb credadwy o'r dystiolaeth sydd ar gael i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau o fewn dyddiau neu wythnosau pan fo angen, wrth gynnal ymgysylltiad rhanddeiliaid trwy gydol y broses. O ganlyniad, datblygwyd proses adolygu bwrpasol, ac mae'r ffordd hon o weithio wedi'i throsglwyddo i'r Ganolfan Dystiolaeth.

Mae Ruth Lewis yn arwain ar y gwaith synthesis tystiolaeth, ac mae wedi ysgrifennu papur yn myfyrio ar y broses a'r gwersi a ddysgwyd: Proses adolygu tystiolaeth gyflym bwrpasol sy'n ymgysylltu â rhanddeiliaid i gefnogi polisi a phenderfyniadau clinigol sy'n esblygu ac yn sensitif i amser: myfyrio a gwersi a ddysgwyd o Ganolfan Dystiolaeth Covid-19 Cymru 2021-23