Telerau ac Amodau
Gwefan a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel 'Ni'. Wrth fynd i'n gwefan, rydych chi, y defnyddiwr, ('Chi') yn derbyn ein Telerau ac Amodau. Mae gwefan Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’i gwefannau cysylltiedig yn cael eu cynnal er mwyn i chi eu defnyddio a’u gweld yn bersonol. Mae mynediad at y wefan hon a defnydd ohoni gennych yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, sy'n dod i rym o'r dyddiad y'i defnyddir gyntaf.
Eiddo Deallusol
Mae’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n dynodi Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn nodau perchnogol Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ni chaniateir copïo na defnyddio’r logo a/neu unrhyw logos trydydd parti eraill y ceir mynediad atynt drwy’r wefan hon heb ganiatâd ymlaen llaw gan berchennog yr hawlfraint berthnasol.
Dylid anfon ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio ein logo at dîm Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
E-bost: healthandcareevidence@caerdydd.ac.uk
Dylid anfon ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logos Llywodraeth Cymru at Dîm Brandio Cyfathrebu Corfforaethol Llywodraeth Cymru.
E-bost: brandingqueries@llyw.cymru
Ffôn: 0845 010 3300
Ffacs: 02920 82 3001
Creu hyperddolenni
I'r wefan hon
Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i osod dolenni uniongyrchol i dudalennau a gynhelir ar y wefan hon. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi osod dolenni uniongyrchol i'r wybodaeth a ddangosir ar ein gwefan. Fodd bynnag, byddem yn rhoi caniatâd pe na bai ein tudalennau'n cael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan. Dylai tudalennau gwe Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru lwytho i ffenestr gyfan y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan.
Os yw perchnogion porth gwe am gynnwys tudalennau gwe Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o fewn gwefan porthol, cysylltwch â healthandcareevidence@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch eich manylion cyswllt, enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a disgrifiad o'ch gwefan borthol.
O'r wefan hon
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig. Ni ddylid cymryd bod rhestru yn gymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.
Diogelu rhag firysau
Gwnawn bob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o'r broses gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd a lwythir o'r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, ymyrraeth neu ddifrod i'ch data neu eich system gyfrifiadurol a allai ddigwydd tra byddwch yn defnyddio deunydd a ddaw o wefan Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Ymwadiad
Darperir gwefan, gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (neu gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau trydydd partion) 'fel ag y mae' heb unrhyw gynrychiolaeth neu ardystiad a heb warant o unrhyw fath p'un a'i mynegir neu'i awgrymir, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau dealledig ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, peidio â thorri’r gyfraith, cysondeb, diogelwch a chywirdeb Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd a gynhwysir yn y wefan hon yn rhydd rhag ymyrraeth neu wallau, y caiff diffygion eu cywiro, ac y bydd y wefan hon neu’r gweinydd sy’n sicrhau ei bod ar gael, yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli swyddogaeth, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau Ni fyddwn yn atebol dros golled neu ddifrod ar unrhyw gyfrif, yn cynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod canlyniadol neu anuniongyrchol, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n deillio o ddefnyddio neu golli'r gallu i ddefnyddio, data neu elw sy'n deillio o neu sy'n gysylltiedig â defnyddio gwefan Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru neu sy'n deillio o hynny
Rheolir a dehonglir y telerau ac amodau hyn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n deillio o dan y telerau ac amodau hyn yn agored i awdurdod unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.