Public partnership group discussion

Y Cyhoedd

Mae’r cyhoedd yn ganolog i'r gwaith a wneir gan Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae cysylltu'n agos ag aelodau'r cyhoedd yn ein galluogi i wella gwerth, cryfder a pherthnasedd ein hymchwil.

Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus

Mae ein Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd sy’n ymwneud â holl waith y Ganolfan o’r dechrau i’r diwedd, gan ein cefnogi i wneud y canlynol:

  • Penderfynu ar ein pynciau ymchwil
  • Dehongli ein canfyddiadau a sut y byddant yn cael eu defnyddio orau
  • Ysgrifennu am ein gwaith ar gyfer y cyhoedd
  • Nodi syniadau ymchwil y dyfodol
  • Meithrin cydweithrediad â phartneriaid
  • Gwneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau penodol
  • Rhannu ein canfyddiadau

Mae ein Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus wedi’i adeiladu ar sail Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd:

Cyfleoedd Cynhwysol | mae ein cyfleoedd yn hygyrch ac yn estyn allan i bobl a grwpiau yn unol ag anghenion ymchwil.

Gweithio Gyda'n Gilydd | Gweithio mewn ffyrdd sy'n gwerthfawrogi pob cyfraniad, ac sy'n meithrin ac yn cynnal perthnasoedd cynhyrchiol a pharchus.

Cymorth a Dysgu | Cynnig a hyrwyddo cymorth a chyfleoedd dysgu sy’n meithrin hyder ac yn datblygu sgiliau ar gyfer cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil.

Llywodraethu | Cynnwys y cyhoedd yn y gwaith o reoli ymchwil, arwain ymchwil a gwneud penderfyniadau ar ymchwil.

Cyfathrebu | Defnyddio iaith glir mewn negeseuon sy’n berthnasol ac wedi’u hamseru’n dda, fel rhan o gynlluniau a gweithgareddau cynnwys y cyhoedd.

Effaith | Chwilio am welliant trwy nodi a rhannu'r gwahaniaeth y mae cynnwys y cyhoedd yn ei wneud i ymchwil.

 

Cyfleoedd i gymryd rhan

Bydd angen mewnbwn penodol gan aelodau o'r cyhoedd neu gleifion sydd wedi cael profiad byw i rywfaint o'n hymchwil. Byddwn yn hysbysebu pob cyfle drwy Gymuned Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

 

Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru

Datblygwyd y strategaeth cynnwys y cyhoedd a ddefnyddiwyd gan y Ganolfan Dystiolaeth i ddechrau ar gyfer Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (WCEC).  Fe wnaeth y pandemig gyflwyno heriau i'r dulliau arferol o gynnwys cleifion a'r cyhoedd. Roedd yn rhaid nodi ffyrdd newydd o weithio i sicrhau bod y cyhoedd yn cymryd rhan ym mhob cam o'r prosesau ymchwil cyflym, tra'n cyflawni Safonau'r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. Mae'r ffordd bwrpasol a chynhwysol hon o weithio wedi'i throsglwyddo i'r Ganolfan Dystiolaeth.

Mae Natalie Joseph-Williams, Cyfarwyddwr Cyswllt, wedi ysgrifennu papur yn myfyrio ar y prosesau a'r gwersi a ddysgwyd: Cynnwys y cyhoedd mewn blaenoriaethu ymchwil ac fel partneriaid ymchwil yng Nghanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (2021-23): prosesau, blaenoriaethau ymchwil, allbynnau a gwersi