Many faces drawn on post-it notes, the faces have different expressions

Blwyddyn o Dystiolaeth 2023/24 - Iechyd meddwl ac Lles

16 Rhagfyr

Ym mlwyddyn gyntaf Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rydyn ni wedi cynnal sawl astudiaeth feirniadol yn canolbwyntio ar les ac iechyd meddwl. Cynhaliwyd yr astudiaethau hyn gydag arbenigedd a chefnogaeth ein rhanddeiliaid, partneriaid cydweithredol a'n grŵp aelodaeth gyhoeddus. Isod, tynnwn sylw at rai prosiectau allweddol sydd â’r nod o wella lles yng Nghymru a chynnig gwybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth i’r sawl sy'n gwneud penderfyniadau.

Mae ein holl adroddiadau ymchwil ar gael i bawb ar-lein. Mae'r adroddiadau'n cynnwys Crynodeb Gweithredol 2 dudalen sy'n crynhoi'r canfyddiadau, bylchau ymchwil, a goblygiadau polisi ac ymarfer. Cliciwch ar y dolenni canlynol i gael gwybodaeth am bob astudiaeth, gan gynnwys crynodebau lleyg a ffeithluniau defnyddiol.

Mesur iechyd meddwl mewn argyfwng costau byw: adolygiad cyflym

Partner cydweithredu: Technoleg Iechyd Cymru 

Many faces are drawn on post-it notes, the faces have different expressions

Ers 2021, mae chwyddiant cynyddol yn y DU wedi creu argyfwng costau byw, gyda llawer o aelwydydd yn gweld nad yw eu cyflogau a’u lles wedi cadw i fyny â phrisiau cynyddol. I'r rhai sy’n dioddef, mae'r straen ariannol hefyd wedi arwain at ddirywiad yn eu hiechyd meddwl. Cynhaliodd y Ganolfan Dystiolaeth adolygiad cyflym i asesu sut mae pwysau economaidd yn effeithio ar iechyd meddwl, gan nodi’r grwpiau penodol o bobl sy’n wynebu’r perygl mwyaf a dadansoddi pa ddulliau a allai ddal y wybodaeth hon orau.
Datgelodd yr adolygiad duedd sy’n peri pryder: mae unigolion o gefndiroedd incwm is a bregus yn dioddef effaith anghymesur ar eu hiechyd meddwl. Yng Nghymru, lle mae cyfraddau tlodi yn arbennig o uchel, mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at yr angen brys am ymatebion iechyd meddwl wedi'u targedu. Gyda thlodi plentyndod wedi’i gysylltu â risgiau iechyd meddwl gydol oes, mae'r baich economaidd yn debygol o gael effeithiau hirhoedlog ar draws cenedlaethau.

Mae'r canfyddiadau'n cynnig arweiniad i’r rhai sy’n gweithio ym maes polisi ac ymarfer iechyd, gan danlinellu'r angen am fesurau manwl, cynhwysol i gyfleu ac ymateb i’r heriau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â chaledi economaidd.

Darllen mwy

Iechyd Meddwl ac Anghydraddoldebau: Beth sy'n gweithio i gefnogi mynediad gwell i wasanaethau iechyd meddwl (o ofal sylfaenol i gleifion mewnol) i grwpiau lleiafrifol er mwyn lleihau anghydraddoldebau?  

Partner cydweithredol:  Cydweithfa Synthesis Tystiolaeth Caerdydd

The word mental health is written on small titles

Ym mis Mawrth 2024, cynhaliodd y Ganolfan Dystiolaeth grynodeb tystiolaeth cyflym gyda'r nod o archwilio pa ymyriadau sy'n gweithio i wella mynediad cyfartal, ymgysylltiad a’r defnydd a’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer grwpiau lleiafrifol.

Mae anghydraddoldebau o ran mynediad i wasanaethau iechyd meddwl yn broblem gymdeithasol hollbwysig.  Mae ymchwil yn dangos bod grwpiau ethnig leiafrifol yn aml yn wynebu mwy o rwystrau mynediad a chanlyniadau iechyd meddwl gwaeth na grwpiau nad ydynt yn ethnig leiafrifol. Er mwyn helpu i gau'r bwlch hwn, mae ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy'n gwella mynediad, ymgysylltu a darpariaeth gwasanaeth ar gyfer y grwpiau hyn yn hanfodol. Felly, aeth y Ganolfan Dystiolaeth ati i archwilio pa ymyriadau sydd fwyaf effeithiol o ran gwella mynediad cyfartal, ymgysylltiad a’r defnydd o wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer cymunedau ethnig leiafrifol.

Pwysleisiodd canfyddiadau'r adolygiad ystod eang o argymhellion sydd â'r nod o wella cydraddoldeb o ran mynediad i ofal iechyd meddwl, ac yn eu plith roedd addasiadau diwylliannol ac ieithyddol a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae gwella mynediad i ofal iechyd meddwl ar gyfer cymunedau ethnig leiafrifol yn gofyn am ddull gweithredu parhaus sy'n seiliedig ar dystiolaeth, un sy'n chwalu rhwystrau ac yn sicrhau bod cymorth iechyd meddwl yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn effeithiol i bawb.

Darllen mwy

Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd ymyriadau sy’n gwneud cartrefi’n gynhesach ac yn rhatach i’w cynhesu ar gyfer aelwydydd mewn tlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell

Partner cydweithredol:  Canolfan Cymru ar gyfer Gofal sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth

White radiator on a blue wall

Gyda chostau ynni cynyddol a'r angen cynyddol am dai cynaliadwy, mae ymchwil gan y Ganolfan Dystiolaeth yn cynnig gwybodaeth hanfodol am ymyriadau a all wneud cartrefi’n gynhesach ac yn fwy fforddiadwy i'w gwresogi. Cynhaliodd y Ganolfan Dystiolaeth adolygiad i archwilio amrywiaeth o atebion i helpu i lywio polisïau’r dyfodol ar dai ac ynni. Roedd ffocws ar atebion sy'n addas ar gyfer gwahanol fathau o dai a demograffeg, cefnogi aelwydydd incwm is a gwella effeithlonrwydd ynni.

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu y gall ymyriadau—fel gwella inswleiddio, uwchraddio systemau gwresogi a rhoi cyngor arbed ynni—leihau costau gwresogi i aelwydydd yn sylweddol gan eu gwneud nhw’n fwy cyfforddus hefyd. Roedd rhai o'r ymyriadau yn arbennig o fuddiol i grwpiau sy’n agored i niwed, gan helpu i fynd i'r afael â phroblemau tlodi tanwydd a chyfrannu at iechyd a lles cyffredinol.

Gyda biliau ynni yn effeithio ar deuluoedd ledled Cymru, mae'r canfyddiadau hyn yn pwysleisio pwysigrwydd ymyriadau gwresogi hygyrch a fforddiadwy sydd nid yn unig yn gwneud cartrefi’n gynhesach ond hefyd yn cefnogi bywydau cynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol.

Darllen mwy