Mesur Iechyd Meddwl mewn Argyfwng Costau Byw: adolygiad cyflym

Ers 2021, mae'r DU wedi profi cynnydd sydyn mewn chwyddiant. I'r rhan fwyaf o bobl, nid yw cyflogau a thaliadau lles wedi cadw i fyny â chostau cynyddol, gan arwain at argyfwng costau byw. Mae tystiolaeth o astudiaethau epidemiolegol hydredol sy'n nodi bod argyfyngau economaidd yn niweidiol i iechyd meddwl y boblogaeth a bod rhai grwpiau'n arbennig o agored i niwed. O ganlyniad, dylai ymatebion iechyd y cyhoedd i'r argyfwng costau byw allu asesu effaith y polisïau ar iechyd meddwl. Nodau'r adolygiad yw 1) nodi a gwerthuso mesurau a dulliau ar lefel poblogaeth sydd ar gael ar gyfer asesu effaith unrhyw ymateb iechyd cyhoeddus i'r argyfwng costau byw ar iechyd meddwl ac 2) adolygu priodoldeb y mesurau ar gyfer poblogaethau penodol, agored i niwed.

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR0006