Adroddiad blynyddol - tudalen flaen

Adroddiad Blynyddol 2024-2025

16 Medi

Adroddiad Blynyddol 2024-2025

Mae’n bleser gennym rannu ein hail Adroddiad Blynyddol gan Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Adroddiad Blynyddol y Ganolfan Dystiolaeth 2024-2025

Mae'r gwaith yn cynnwys ystod eang o bynciau pwysig i helpu i lywio'r ddarpariaeth o wasanaethau o safon i bobl Cymru, sy’n amrywio o heriau iechyd y cyhoedd hanfodol fel gordewdra ymhlith plant, gwella diogelwch 'gweithdrefnau arbennig' fel tatŵio ac aciwbigo, ac effaith twristiaeth feddygol ar GIG Cymru.

Mae gwaith y Ganolfan Dystiolaeth dros y flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi cynnwys y cyhoedd yn y broses o ddiwygio gwasanaethau fel gofal deintyddol, deall gwerth gwasanaethau gofal lliniarol, lliniaru risgiau hunanladdiad mewn lleoliadau sy'n peri pryder, dilysrwydd offer rhagfynegi risg llawfeddygol i fynd i'r afael â rhestrau aros, a hefyd gwasanaethau ail-alluogi i leihau derbyniadau i'r ysbyty ac anghenion gofal hirdymor.

Mae pob un o’n hastudiaethau’n mynd i'r afael â heriau hanfodol ar gyfer darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae'r dystiolaeth yn cael ei defnyddio gan wleidyddion a llunwyr polisïau Llywodraeth Cymru, a Chyfarwyddwyr GIG a gofal cymdeithasol i wella ansawdd, diogelwch, effeithlonrwydd a phrofiad pobl Cymru o wasanaethau.

Yn ystod ein galwad ddiweddaraf am gwestiynau (Gwanwyn 2025), cawsom 59 o gyflwyniadau ac mae ein Rhaglen Waith wedi'i diweddaru ar gyfer Haf 2025 – 2026 bellach ar gael i'w gweld ar-lein. Mae adroddiadau terfynol ac allbynnau cysylltiedig (gan gynnwys crynodebau Saesneg plaen a infograffeg) ar gael ar gyfer pob astudiaeth a gwblhawyd hyd yma trwy ein Llyfrgell Adroddiadau ar-lein.

Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y canlynol:

  • Technoleg Iechyd Cymru Cymhlethdodau a chostau i'r GIG oherwydd twristiaeth feddygol allanol ar gyfer llawdriniaeth ddewisol: adolygiad cyflym - Bydd canfyddiadau'r astudiaeth hon yn helpu i lywio dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o raddfa ac effaith twristiaeth feddygol ar gleifion a'r GIG yng Nghymru, a helpu i lywio canllawiau cenedlaethol a phenderfyniadau polisi ar y mater.
  • Canolfan Cymru ar gyfer Gofal sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth / Uned Arbenigol ar gyfer Adolygu Tystiolaeth, Prifysgol Caerdydd Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau i wella mynediad cyfartal neu gyffredinol at wasanaethau iechyd meddwl gan grwpiau lleiafrifoedd ethnig - Mae'r canfyddiadau wedi llywio'r Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer dwy strategaeth newydd Llywodraeth Cymru, sef y Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles ar gyfer Cymru, a'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ar gyfer Cymru.
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau rhoi'r gorau i ysmygu ar gyfer pobl â gorbryder a/neu iselder sy'n byw yn y gymuned - Bydd y canfyddiadau'n llywio'r Cynllun Cyflawni Rheoli Tybaco wedi'i ddiweddaru ar gyfer Cymru a bwriedir eu cyflwyno i'r Bwrdd Strategol Rheoli Tybaco yn ddiweddarach eleni.
  • Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor / Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer atal problemau ymataliaeth sy'n deillio o drawma geni: adolygiad cyflym - Mae'r canfyddiadau wedi helpu i lywio Maes Blaenoriaeth 5 o’r Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru 2025 – 2035 diweddar sy'n ymwneud ag iechyd pelfig ac anymataliaeth.
  • Ymchwil Sylfaenol Mewnol Dadfeddyginiaethu cynhyrchion di-glwten trwy gynllun cerdyn cymhorthdal: astudiaeth ansoddol o ddefnyddwyr gwasanaeth – mae canfyddiadau'r astudiaeth hon wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno cynllun cymhorthdal ​​cerdyn di-glwten Cymru gyfan sydd ar ddod.
  • Gwyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe Llwybrau Iechyd a Gofal yn ystod Blwyddyn Olaf Bywyd mewn achosion lle nad oedd y farwolaeth yn sydyn rhwng 2014 a 2023 yng Nghymru: Astudiaeth Carfan Ôl-weithredol ar Raddfa Poblogaeth - Bydd canfyddiadau'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan y Rhaglen Genedlaethol Gofal Lliniarol a Diwedd Oes yng Nghymru, sydd â'r dasg o lywio polisi Llywodraeth Cymru dros y 25 mlynedd nesaf ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru.

Mae Grŵp Partneriaeth Gyhoeddus (PPG) y Ganolfan Dystiolaeth, sy'n cynnwys 10 aelod, wedi parhau i chwarae rhan hanfodol yn ail flwyddyn waith y Ganolfan. Maent wedi bod yn rhan o’n holl waith ymchwil, gan gynnwys helpu i fireinio’r cwestiynau ymchwil, deall perthnasedd y canfyddiadau, ac ysgrifennu crynodebau lleyg i gyd-fynd â’n holl adroddiadau terfynol.

Rydym yn ddiolchgar iawn i'n hariannwr, Llywodraeth Cymru (a ariennir drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru).