Image of Evidence Centre Members

Aelodau o'r Ganolfan Dystiolaeth yn sicrhau gwobr gwerth €6,250 'Studies Within A Review' (SWAR) ar gyfer 2024/25

16 Ionawr

Mae aelodau o’r Ganolfan Dystiolaeth wedi derbyn Gwobr 'Studies Within a Review' werth €6,250 (SWAR) ar gyfer 2024/25 i werthuso’r gallu i ddefnyddio adnoddau gwerthuso unedig yn fwy hwylus mewn adolygiadau cyflym o effeithiau ymyriadau. Enwir y prosiect hwn "Evaluating the usability of unified appraisal tools within rapid reviews of intervention effects: A study within a review’’ yn cael ei gefnogi gan Cydblethu Tystiolaeth Iwerddon (ESI) a Cochrane Iwerddon.

Mae'r tîm astudio yn cynnwys Deborah Edwards, Ruth Lewis, Emily Clark, Gillian Prue, Juliet Hounsome, Judit Csontos, Liz Gillen and Sarag Neil-Sztramko, a fydd yn gweithio ar y cyd ag ymchwilwyr o'r Ganolfan Gydweithredu Genedlaethol ar gyfer Dulliau ac Adnoddau ym Mhrifysgol McMaster, Canada, a Phrifysgol Queen's, Belfast.

Nod yr ymchwil hon yw gwella methodolegau adolygiadau cyflym, gan fynd i'r afael ag anghysondebau wrth gynnal arfarniad beirniadol o ansawdd methodolegol mewn adolygiadau cyflym. Mae arferion cyfredol yn amrywio'n sylweddol, o ddefnyddio un adolygydd yn unig neu ddefnyddio, adolygydd gyda dilysydd, neu beidio â gwneud adolygiad o gwbl, i ddefnyddio dau neu fwy adolygydd annibynnol er mwyn cynnal asesiad trwyadl. Gall cynnal arfarniadau beirniadol gymryd hyd at 40 munud fesul astudiaeth, sydd yn ychwanegu cryn dipyn o amser at y broses adolygu.

Bydd y tîm yn ystyried adnoddau arfarnu beirniadol sy'n berthnasol ar draws y gwahanol fathau o astudiaethau cymharol. Y nod yw penderfynu a all yr adnoddau arfarnu unedig symleiddio’r prosesau, gwella effeithlonrwydd, a lleihau amser ac adnoddau y bydd eu hangen ar gyfer cynnal adolygiadau cyflym. Byddan nhw hefyd yn asesu a yw’r adnoddau unedig yn fwy effeithlon nag adnoddau sy'n cael eu defnyddio’n benodol wrth gynnal arfarniadau beirniadol ar gyfer effeithiau ymyriadau ac i nodi’r adnodd unedig mwyaf effeithiol at y diben hwn.

Bydd tri adolygiad cyflym a gynhaliwyd gan y Ganolfan Dystiolaeth yn sail i'r gwerthusiad hwn:
•    Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymgynghoriadau o bell o gymharu ag ymgynghoriadau wyneb yn wyneb gofal eilaidd mewn lleoliadau cleifion allanol llawfeddygol. [Darllen mwy] 
•    Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd ymyriadau sy’n gwneud cartrefi’n gynhesach ac yn rhatach i’w cynhesu ar gyfer aelwydydd mewn tlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell. [Darllen mwy]
•    Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau at ddibenion gwella mynediad teg neu gyffredinol at wasanaethau iechyd meddwl gan grwpiau ethnig lleiafrifol. [Darllen mwy]

Cyflwynodd y tîm boster o'r gwaith hwn yn Uwchgynhadledd Tystiolaeth Fyd-eang 2024 yn ddiweddar yn Prag ([dolen i'r stori newyddion honno]).

Mae’r astudiaeth hon yn cael ei chefnogi gan y Bwrdd Ymchwil Iechyd (Iwerddon) ac Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus HSC (Rhif grant ESI-2021-001) trwy Synthesis Tystiolaeth Iwerddon / Cochrane Iwerddon.