Effeithiolrwydd a diogelwch ymgynghoriadau telefeddygaeth ansyncronaidd mewn ymarfer meddygol: adolygiad systematig

Cefndir

Mae telefeddygaeth ansyncronaidd yn caniatáu cyfathrebu o bell, nad yw'n digwydd mewn amser real rhwng clinigwyr a chleifion, gan ganiatáu i’r ddau gael mynediad at blatfform pryd bynnag a ble bynnag maen nhw eisiau. Er enghraifft, gall claf anfon llun neu fideo o’i gyflyrau croen (data meddygol), sy'n cael ei adolygu gan feddyg pan fydd ganddo amser.  

Er bod ffocws ar gynyddu'r defnydd o delefeddygaeth ansyncronaidd (h.y. caniatáu trosglwyddo data meddygol, ei storio a'i ddehongli yn ddiweddarach), prin yw'r dystiolaeth o ansawdd y gofal mae'n ei ganiatáu mewn ymarfer meddygol ac mae hyn yn rhwystr posibl.

Nod

Cynnal adolygiad systematig o ymchwil wedi’i gyhoeddiw i ymchwilio i ddefnyddiau ac effeithiolrwydd telefeddygaeth ansyncronaidd mewn ymarfer meddygol cyffredinol yn ôl meysydd ansawdd gofal iechyd, a disgrifio sut y newidiodd pandemig COVID-19 ei ddefnydd.

Dull 

Chwiliad systematig sy’n cael ei wneud gan ddefnyddio termau sy'n ymwneud ag ymarfer cyffredinol, telefeddygaeth ansyncronaidd, defnyddiau ac effeithiolrwydd, ac sy’n cael ei gefnogi gan chwilio am gyfeiriadau. Yn dilyn hyn, bydd sgrinio yn unol â meini prawf a ddiffiniwyd ymlaen llaw, echdynnu data ac arfarniad beirniadol. Synthesis naratif wedi'i arwain gan chwe pharth ansawdd gofal iechyd ac archwilio gwahaniaethau mewn defnydd cyn ac yn dilyn pandemig COVID-19.
 

Adroddiad wedi’i Gyhoeddi

Dyddiad:
Cyfeirnod:
PR0011