Cardiff Evidence Synthesis Team, 4 ladies, standing in front of the conference sign

Uwchgynhadledd Dystiolaeth Fyd-eang 2024 ym Mhrâg

24 Hydref

Yn yr Uwchgynhadledd Dystiolaeth Fyd-eang ym Mhrâg, y Weriniaeth Tsiec, (10-13 Medi, 2024), cyflwynodd ymchwilwyr o'r Ganolfan Dystiolaeth weithdy a chyflwyno canfyddiadau gyda'r nod o wella methodolegau adolygu systematig.
 

female, judit, standing next to a poster

Cyflwynodd Judit Csontos boster, "Manual versus Web of Science-based Tabulation of Included Studies to Determine Overlap in Overviews of Reviews: Does it Save Time?" Roedd yr astudiaeth hon o fewn adolygiad yn cymharu dulliau llaw ag offer Web of Science i asesu a allai dulliau awtomataidd leihau'r amser sydd ei angen i nodi gorgyffwrdd astudiaethau wrth edrych dros adolygiadau.

 

female, Liz, standing next man looking at the posterCyflwynodd Liz Gillen  boster, "Does One Size Fit All – Unified Tools for Assessing the Methodological Quality within Rapid Reviews of Intervention Effects". Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gyda chydweithwyr o’r National Collaborating Centre for Methods and Tools (Prifysgol McMaster Canada) a’r Ganolfan Dystiolaeth. Roedd Liz hefyd yn rhan o dîm a gyflwynodd sesiwn i arbenigwyr gwybodaeth o bob cwr o'r byd.

 

female, mala, standing next to another female looking at the poster Cyflwynodd Mala Mann boaster ar "Dod o hyd i fylchau ymchwil pan nad ydym yn chwilio amdanynt". Roedd hyn yn seiliedig ar ganfyddiadau Adolygiad Cyflym y Ganolfan Dystiolaeth ar "Beth yw'r ymyriadau mwyaf effeithiol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad yn y teulu."

Roedd Mala hefyd yn ymwneud â chyflwyno gweithdy gyda chydweithwyr o Cochrane ar weithdy "Manteisio i’r eithaf ar eich arbenigwr gwybodaeth" a oedd â'r nod o wella cydweithio rhwng arbenigwyr gwybodaeth, ymchwilwyr a rhanddeiliaid.