Beth yw'r ymyriadau mwyaf effeithiol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi profi profedigaeth oherwydd hunanladdiad yn y teulu: adolygiad cyflym

Cefndir a Chyd-destun

Yn 2021, bu 5,583 o farwolaethau drwy hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2022). Byddai llawer o'r marwolaethau hyn wedi bod yn rhieni neu'n frodyr a chwiorydd, sy’n gadael plant a phobl ifanc mewn profedigaeth.

Mae profedigaeth drwy hunanladdiad yn wahanol i fathau eraill o brofedigaeth ac mae angen cymorth arbenigol. Mae plant a phobl ifanc sydd wedi colli anwyliaid i hunanladdiad yn fwy tebygol o ddioddef proses brofedigaeth gymhleth a phrofi iechyd meddwl gwaeth.

Gofynnwyd am yr adolygiad fel sail i un o amcanion strategaeth atal hunanladdiad Llywodraeth Cymru: "darparu gwybodaeth a chefnogaeth i'r rhai sydd mewn profedigaeth neu sy’n cael eu heffeithio gan hunanladdiad a hunan-niweidio", ac adeiladu ar yr ymgynghoriad diweddar ar gymorth "ôl-ymyrraeth" (profedigaeth oherwydd hunanladdiad) gyda'r bwriad o ddatblygu canllawiau ar ymateb i bobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan hunanladdiad.

Nod

Nod yr adolygiad hwn yw asesu'r dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd ymyriadau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi profi profedigaeth oherwydd hunanladdiad. Roedd yr adolygiad yn cynnwys tystiolaeth oedd ar gael hyd at 29 Mawrth 2023.

Bydd y canfyddiadau'n llywio strategaeth Llywodraeth Cymru ac yn gweithio gydag asiantaethau ac elusennau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc yn dilyn hunanladdiad aelod agos o'r teulu.

Strategaeth a Chanlyniadau

Nododd chwiliad am astudiaethau ymchwil cynradd 348 o gofnodion, o’r rhain roedd 3 astudiaeth yn bodloni'r meini prawf cynhwysiant ac maen nhw wedi’u cynnwys yn yr adolygiad hwn. Adroddodd y tair astudiaeth ar ymyriadau therapi grŵp, oedd yn para rhwng 10 a 14 wythnos. Roedd y rhain yn cynnwys plant rhwng 6 a 15 mlwydd oed.

Canfyddiadau Allweddol

 Canfuwyd gostyngiadau mewn pryder a symptomau iselder ymhlith plant a dderbyniodd ymyriadau grŵp. Fodd bynnag, oherwydd dyluniadau astudiaeth a ddefnyddiwyd a chyfyngiadau'r astudiaethau dan sylw, nid yw'n glir a ellir priodoli hyn i'r ymyriadau, felly dylid bod yn ofalus.

  • Daeth y dystiolaeth gryfaf o astudiaeth ar hap dan reolaeth, lle cafodd wnaeth plant yn y grŵp ymyrraeth brofi gostyngiad sylweddol uwch o symptomau gor-bryder ac iselder o'i gymharu â phlant yn y grŵp rheoli. Fodd bynnag, roedd yr astudiaeth hon yn gyfyngedig oherwydd nifer y cyfranogwyr a gollwyd cyn gwaith dilynol.
  • Cafodd rhai canlyniadau ymddygiadol a chymdeithasol, fel dicter ac ymddygiad aflonyddgar, eu mesur, ond mae'r canlyniadau'n fwy amhendant oherwydd maint bach y sampl a diffyg grŵp rheoli yn yr astudiaethau hynny.

Crynodeb

Mae'n anodd dod i gasgliadau pendant oherwydd y dystiolaeth gyfyngedig ac ansawdd isel yr astudiaethau sydd ar gael. Fodd bynnag, mae arwyddion y gallai ymyriadau grŵp helpu i leihau symptomau pryder ac iselder ymhlith plant sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad. Bydd yn bwysig datblygu canllawiau a safonau ymarfer ar gyfer y gwasanaethau hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Rhaid i bob gwasanaeth o'r fath ddefnyddio mesurau canlyniadau wedi'u dilysu fel rhan o broses werthuso integrol a sefydlwyd o gychwyn gwasanaethau.

Mae angen ymchwil pellach i ddatblygu ymyriadau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi profi profedigaeth drwy farwolaeth trwy hunanladdiad aelod o'r teulu. Mae angen ymchwil ychwanegol i werthuso effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd ymyriadau cynlluniedig.

Crynodeb Lleyg wedi’i ysgrifennu gan Rashmi Kumar

Gweld yr Inffograffeg

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR0007