
Symposiwm y Ganolfan Dystiolaeth - Tystiolaeth i gael effaith i greu Cymru iachach
Tystiolaeth i gael effaith i greu Cymru iachach
Cynhaliodd Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ei Symposiwm eilflwydd ddydd Mercher, 19 Mawrth 2025. Cafodd ei gyflwyno gan Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Gwnaeth y Symposiwm amlygu effaith y Ganolfan Dystiolaeth a grwpiau ymchwil eraill yng Nghymru a helpu’r rhai a oedd yn bresennol i ddatblygu cwestiynau ymchwil â ffocws gyda llwybr at effaith i’w cyflwyno’n rhan o alwad 2025 am dystiolaeth y Ganolfan Dystiolaeth.
Siaradwyr y cyfarfod llawn:
- Yr Athro Liz Green |Yn Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol
- Iain Bell | Cyfarwyddwr Cenedlaethol ar gyfer Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Dr Helen Munro | Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Iechyd Menywod, Gweithrediaeth y GIG
Croeso | Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr y Ganolfan Dystiolaeth
Cyflwyniad | Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyfarfod Llawn 1 | Y sefyllfa bresennol: Iechyd y Cyhoedd, Tystiolaeth ac Effaith
Yr Athro Liz Green, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol
Cyflwyniadau Paralel:
- Gwasanaethau Ansawdd Uchel - Beth mae cyhoedd Cymru yn ei ddeall am wasanaethau deintyddol y GIG, sut maen nhw'n meddwl gallen nhw edrych, a beth yw eu blaenoriaethau? (Y Ganolfan Dystiolaeth)
- Iechyd Merched - Effeithiolrwydd ymyriadau sy’n helpu menywod, merched a phobl sy’n cael mislif i gymryd rhan mewn ymarfer gweithgaredd corfforol. (Cydweithrediad Synthesis Tystiolaeth Caerdydd, Prifysgol Caerdydd)
- Iechyd a Lles Meddyliol - Llesiant mewn gwaith - cefnogi pobl mewn gwaith ac i ddychwelyd i'r gweithlu. (Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Prifysgol Bangor)
Cyfarfod Llawn 2 | Data, Dealltwriaeth a Gwybodaeth: Deall Iechyd y Cyhoedd mewn amser real
Iain Bell, Cyfarwyddwr Cenedlaethol ar gyfer Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyflwyniadau Paralel:
- Rhestrau Aros - Dulliau Rhagfynegi Risg ar gyfer hybiau llawfeddygol. (Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru)
- Plant a Phobl Ifanc - Ffactorau sy’n gysylltiedig â gorbwysau neu ordewdra mewn plant o dan bump oed. (Technoleg Iechyd Cymru)
- Gofal Sylfaenol a Chymunedol - Ymchwil Sylfaenol Gwyddor Data Diwedd Oes a Gofal Lliniarol. (Gwyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe)
Cyfarfod Llawn 3 | Cynllun Iechyd Menywod Cymru - Beth nesaf? Llenwi'r bylchau ac agor llwybrau newydd mewn ymchwil
Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Iechyd Menywod, Gweithrediaeth y GIG
Bywgraffiadau Siaradwyr y Sesiwn Lawn
- Professor Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd ac Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Lerpwl
Mae Liz yn Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Polisi ac Iechyd Rhyngwladol ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer AEI yn Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Mae hi'n Athro Gwadd Anrhydeddus yn yr Adran Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Lerpwl ac mae ganddi PhD mewn 'Asesu'r Effaith ar Iechyd (AEI) fel adnodd i weithredu Iechyd ym mhob Polisi' o Brifysgol Maastricht, Yr Iseldiroedd. Mae ganddi brofiad helaeth mewn AEI, 'Iechyd ym Mhob Polisi' gan gynnwys ymgorffori iechyd i mewn i brosesau a chynlluniau cynllunio gofodol, ac mae'n darparu hyfforddiant, cyngor ac arweiniad am AEI a phrosesau AE eraill.
Mae Liz wedi gweithio ar oddeutu 500 o AEIau o wahanol lefelau strategol, cymhlethdod a phynciau gan gynnwys 'Goblygiadau Iechyd Cyhoeddus Brexit yng Nghymru: Dull AEI' (ICC, 2019) ac ‘Asesu Effaith Newid Hinsawdd ar Iechyd yng Nghymru’ (ICC, 2023). Mae hi wedi cael ei chydnabod fel Woman of Influence 2022 gan RTPI Planner am ei gwaith ym maes Cynllunio Gofodol ac Iechyd y Cyhoedd ac mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar AEI. Hi hefyd yw arweinydd y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Iain Bell, Cyfarwyddwr Cenedlaethol ar gyfer Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ymunodd Iain Bell ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Gorffennaf 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) lle, fel Dirprwy Ystadegydd Cenedlaethol ar gyfer Poblogaeth a Pholisi Cyhoeddus, bu’n gyfrifol am gyflawni Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr. Ar ôl treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa yn gweithio ar benderfynyddion ehangach iechyd mae'n dweud ei fod eisoes wedi ymgartrefu yma yn Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae rôl Iain yn cwmpasu data, gwybodaeth ac ymchwil a daw â'i brofiad o weithio drwy'r pandemig yn SYG i'r swydd hon. Bydd hefyd yn datblygu awydd y cyhoedd am ffynonellau data arloesol a gwybodaeth amser real, a’u hymwybyddiaeth o iechyd y cyhoedd.
- Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Iechyd Menywod, Gweithrediaeth y GIG
Mae Helen yn Ymgynghorydd mewn Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Cymunedol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd), De-orllewin Cymru. O fis Ebrill 2024 mae hi wedi bod ar secondiad i Weithrediaeth y GIG fel Arweinydd Clinigol ar gyfer y Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Iechyd Menywod ac arweinydd ar gyfer datblygu Cynllun Iechyd Menywod cyntaf Cymru, a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2024 Cynllun Iechyd Menywod Cymru – Gweithrediaeth y GIG. Mae hi hefyd yn parhau i weithio'n glinigol fel Arbenigwr mewn Gofal Menopos.
Mae Helen yn ymchwilydd academaidd ac yn gyd-ymgeisydd ar sawl prosiect ledled Cymru a’r DU, a rhoddwyd iddi Ddyfarniad Amser Ymchwil nodedig Iechyd a Gofal Cymru 2023-2026. Mae hi'n Gyd-Brif Ymchwilydd ar y treial ESTEEM sy'n ceisio darganfod a all ychwanegu testosteron at Therapi Amnewid Hormonau (HRT) safonol leihau symptomau menoposaidd y tu hwnt i'w effaith ar swyddogaeth rywiol (libido) ESTEEM – Canolfan Ymchwil Treialon – Prifysgol Caerdydd. Yn 2023 rhoddwyd y teitl Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth i Helen ac mae ganddi rôl anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd yn yr Is-adran Iechyd Poblogaethau.