Beth mae cyhoedd Cymru yn ei ddeall am wasanaethau deintyddol y GIG, sut maen nhw'n meddwl y gallen nhw edrych, a beth yw eu blaenoriaethau? Astudiaeth ansoddol
Cefndir a Chyd-destun
Mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG yng Nghymru yn cael eu newid. Er mwyn sicrhau bod gwasanaethau deintyddol yn diwallu anghenion defnyddwyr, fe wnaethom ni ofyn beth mae'r cyhoedd yn ei feddwl o ran sut y gallai'r gwasanaethau hyn edrych, yn y dyfodol, a beth yw eu blaenoriaethau ar eu cyfer.
Nodau
Nod yr astudiaeth hon oedd gofyn beth mae’r cyhoedd yng Nghymru yn ei ddeall am wasanaethau deintyddol GIG Cymru. Y meysydd penodol a archwiliwyd oedd:
- Sut ddylai gwasanaethau deintyddol GIG Cymru edrych?
- Deall gwasanaethau deintyddol a'r tîm deintyddol (y tu hwnt i'r deintydd a hylenydd deintyddol).
- Barn ar gymysgu sgiliau mewn deintyddiaeth. A oes angen i chi weld y Deintydd bob amser?
- Agweddau tuag at hunanreolaeth iechyd y geg, ac angen am hyn.
- Beth yw'r blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau gofal deintyddol yng Nghymru?
Strategaeth
Fe wnaethom ddefnyddio cyfweliadau a gweithdai ar ffurf grŵp ffocws, ar draws dau gam rhwng Tachwedd 2023 a Mai 2024, i archwilio amcanion yr astudiaeth. Dadansoddwyd y wybodaeth a gasglwyd ar gyfer geiriau ac ymadroddion dro ar ôl tro i nodi themâu a mewnwelediadau allweddol gan ddefnyddio pecyn meddalwedd uchel ei barch.
Canlyniadau
Cymerodd 44 o bobl, gyda chefndiroedd amrywiol, o bob rhan o Gymru, ran.
I grynhoi, canfuom fod y cyhoedd yng Nghymru:
- Yn meddu ar wybodaeth gyfyngedig am y tîm deintyddol a'u rolau
- Ddim yn glir sut a phryd i gael mynediad at wasanaethau deintyddol brys
- Yn cefnogi mwy o gymysgu sgiliau a dulliau amlddisgyblaethol o ofalu am eu gofal deintyddol cyffredinol, ond mae angen ymwybyddiaeth ac addysg
- Yn hapus gydag atebion a gynigir gan 'tele-ddeintyddiaeth' (gwasanaeth ar-lein neu o bell), os caiff hyn ei ddarparu mewn ffordd ddewisol a chynhwysol
- Yn hoffi i fwy o addysg a chymorth fod yn fwy actif mewn hunanreolaeth iechyd y geg
Effaith
Bydd yr adroddiad hwn yn llywio cynlluniau Llywodraeth Cymru i newid Gwasanaethau Deintyddol y GIG. Bydd yn rhoi barn y cyhoedd yng Nghymru ar sut yr hoffent weld Gwasanaethau.
Deintyddol y GIG yn newid, gan gynnwys defnyddio technolegau newydd.
Dylai'r adroddiad helpu Timau Deintyddol y GIG a Llywodraeth Cymru, i ddarparu Gwasanaethau Deintyddol GIG yn y dyfodol mewn ffyrdd mae'r cyhoedd yng Nghymru yn gefnogol iddynt.
Crynodeb Lleyg wedi’i ysgrifennu gan Anthony Cope.
PR0016