Effeithiolrwydd ymyriadau sy’n helpu menywod, merched a phobl sy’n cael mislif i gymryd rhan mewn ymarfer gweithgaredd corfforol: trosolwg bras o adolygiadau
Cefndir a Chyd-destun
Mae'r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar lefelau gweithgareddau corfforol mewn oedolion rhwng 18-64 oed, gan dynnu sylw at y ffaith bod menywod, merched a phobl sy'n cael y mislif yn llai tebygol o gwrdd â’r lefelau gweithgareddau corfforol sy’n cael eu hargymell o ganlyniad i rwystrau, megis rhagfarn ar sail rhywedd, hunanhyder isel, a diffyg cymorth. Mae deall y rhwystrau hyn yn hanfodol er mwyn gwella iechyd y cyhoedd ac annog pobl i gymryd rhan a chael eu cynnwys mewn gweithgareddau corfforol.
Nodau
Nod yr adolygiad oedd adolygu effeithiolrwydd ymyriadau wedi’u cynllunio i annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadw’n heini ymhlith menywod, merched, a phobl sy’n cael y mislif. Roedden nhw’n ceisio nodi a oedd yr ymyriadau hyn yn ystyried effaith y mislif ar bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.
Strategaeth
Roedd yr ymchwil yn cynnwys adolygiad cyflym o bymtheg adolygiad systematig a gyhoeddwyd rhwng 2008 a 2024. Roedd yr adolygiadau'n cynnwys astudiaethau’n canolbwyntio ar nifer o grwpiau oedran, o ferched ifanc i fenywod, mewn gwahanol cyd-destunau megis ysgolion a chymunedau. Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddull dadansoddi ansoddol i gyfuno'r data.
Canlyniadau
Roedd y prif ganfyddiadau’n dangos bod ystod eang o ymyriadau, gan gynnwys strategaethau addysgol ac amgylcheddol. Er hynny, doedd dim un yn mynd i’r afael a sut i lwyddo i wneud ymarfer corff yn ystod y mislif. Roedd effeithiolrwydd yr ymyriadau hyn yn amrywio, gan arwain at ganlyniadau amhenderfynol. Yn benodol, roedd diffyg ffocws ar leiafrifoedd ethnig ac unigolion anneuaidd sy'n cael y mislif.
Effaith
Mae'r ymchwil hon yn dangos bod angen ymyrraeth wedi’i thargedu sy’n ystyried y mislif ac yn mynd i’r afael a’r rhwystrau penodol sy’n wynebu grwpiau demograffig gwahanol. Mae'n galw am ddulliau ymchwil mwy trwyadl ac wedi’i safoni i gynhyrchu data dibynadwy. Trwy lywio polisïau a chanllawiau, mae’r gwaith hwn yn ceisio lleihau tabŵs cymdeithasol sy’n ymwneud a’r mislif, ac i annog arferion gweithgaredd corfforol cynhwysol, a fydd yn y pen draw o fudd i iechyd a lles y cyhoedd.
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn.
Mae’r arolwg cyflym o adolygiadau yn dilyn y Crynodeb cyflym o'r dystiolaeth a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2024.
Ysgrifennwyd gan Anthony Cope, Aelod o'r Grŵp Partneriaeth Gyhoeddus
RR0035