Ffactorau sy’n gysylltiedig â gorbwysau neu ordewdra mewn plant o dan bump oed: adolygiad cyflym
Cefndir a Chyd-destun
Gofynnwyd am y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru i helpu i lywio strategaeth o'r enw Pwysau Iach: Cymru Iach. Efallai y bydd yr adolygiad hefyd yn helpu eraill sy'n ymwneud ag iechyd plant.
Mae dros chwarter plant yng Nghymru, pedair i bum mlwydd oed, sy’n byw gyda gorbwysau neu ordewdra. Efallai y bydd gan y plant hyn broblemau iechyd yn ystod eu plentyndod neu eu llencyndod, neu'r ddau. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o fyw gyda gorbwysau neu ordewdra fel oedolion, a all achosi problemau iechyd.
Mae nifer fawr o bethau (ffactorau) a allai achosi gorbwysau ymhlith plant wedi cael eu nodi drwy ymchwil. Gallai'r ffactorau hyn fod yn genetig (e.e. Syndrom Prader-Willi), seicolegol (e.e. straen, iechyd meddwl), amgylcheddol (e.e. rhwystrau i weithgarwch corfforol, bwydydd iachach) a chymdeithasol (e.e. ffordd o fyw, dylanwad ffrindiau).
Amcanion yr ymchwil hon
Mae astudiaethau cyn hyn eisoes wedi dod o hyd i dystiolaeth o ffactorau sy'n cyfrannu at ordewdra neu orbwysau ymhlith plant. Fodd bynnag, edrychodd yr adolygiadau hyn am ffactorau ar draws ystod eang o oedrannau plant. Nid oes adolygiadau diweddaraf sy'n edrych ar y ffactorau cyfrannu hyn yn benodol mewn plant o dan bum mlwydd oed.
Dulliau
Fe wnaeth yr ymchwilwyr nodi a chrynhoi adolygiadau presennol o dystiolaeth ymchwil. Fe wnaethant hefyd yn edrych ar gryfder (sicrwydd) y dystiolaeth. Roeddent yn chwilio am dystiolaeth am ffactorau a allai fod yn gysylltiedig â gorbwysau neu ordewdra ymhlith plant o dan bum mlwydd oed. Roeddent yn cynnwys tystiolaeth ymchwil sydd ar gael hyd at fis Rhagfyr 2023, ac fe wnaethant nodi 30 adolygiad*systematig. (*Mae adolygiad systematig yn nodi'r holl astudiaethau ymchwil perthnasol, yn asesu eu hansawdd, yn crynhoi'r dystiolaeth, ac yn defnyddio dulliau atgynhyrchadwy).
Canlyniadau
Canfuwyd bod ystod eang o ffactorau yn gysylltiedig â mwy o risg o ordewdra ymhlith a/neu fod dros pwysau ymhlith plant dan 5 oed. Roedd rhai ffactorau hefyd yn gysylltiedig â llai o risg o orbwysau a/neu ordewdra ymhlith plant. Roedd ansawdd y dystiolaeth yn amrywio o fod yn gryf neu'n ganolig, i fod yn wael neu ddim ar gael.
Goblygiadau Polisi ac Ymarfer
Mae'r dystiolaeth gref (sicrwydd uchel) yn dangos bod rhai pethau a allai gefnogi plant i gael pwysau iachach. Dwy enghraifft yw:
- helpu merched sy’n byw gyda gorbwysau (sy'n meddwl am, neu'n ceisio beichiogi) i golli pwysau, a
- darparu cyfleoedd i blant mamau sy'n gweithio fwyta bwydydd iachach a bod yn fwy egnïol yn gorfforol.
Mae yna hefyd rywfaint o dystiolaeth gymedrol am bethau eraill, a allai fod o gymorth. Mae enghreifftiau yn cynnwys hyrwyddo bwydo ar y fron, lleihau'r defnydd o ddiodydd siwgr, a chefnogi gofalwyr y plentyn i roi bwydydd iachach a chyfleoedd i blant fod yn egnïol iddynt.
Pwysig i'w nodi
Gall canfyddiadau'r adolygiad hwn fod yn wahanol i adolygiadau eraill. Un o'r rhesymau yw bod yr adolygiad hwn yn adrodd ar orbwysau neu ordewdra ymhlith plant o dan bump oed yn unig. Mae'r adolygiad hefyd yn tynnu sylw at ble mae angen mwy o ymchwil.
Am ragor o wybodaeth ac i ddarllen yr adolygiad llawn, cliciwch yma.
RR0022