young child in a kitchen cuttig cheese

Ffactorau sy’n gysylltiedig â byw gyda gorbwysau neu ordewdra mewn plant o dan bump oed

12 Tachwedd

Mae dros chwarter plant yng Nghymru, pedair i bum mlwydd oed, yn byw gyda gorbwysau neu ordewdra. Efallai y bydd plant sy’n byw gyda gorbwysau neu ordewdra yn profi problemau iechyd yn ystod eu plentyndod neu eu llencyndod. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o fyw gyda gorbwysau neu ordewdra fel oedolion, a all achosi problemau iechyd cysylltiedig. 

Fe wnaeth Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mewn cydweithrediad â Thechnoleg Iechyd Cymru, gynnal adolygiad cyflym o'r dystiolaeth ymchwil bresennol. Roeddent yn chwilio am ffactorau a oedd yn gysylltiedig â byw gyda gorbwysau neu ordewdra yn ystod  plentyndod mewn plant o dan bump oed.

Canfyddiadau allweddol
Canfuwyd yn gyson bod ystod eang o ffactorau biolegol, seicolegol, amgylcheddol a chymdeithasol yn gysylltiedig â risg uwch o fyw gyda gorbwysau neu ordewdra yn ystod plentyndod. 

Roedd tystiolaeth sicrwydd uchel i awgrymu y byddai helpu merched sy’n byw gyda gorbwysau (sy'n meddwl am feichiogi neu'n ceisio beichiogi) i golli pwysau, lleihau cynnydd pwysau cyflym yn ystod 12 mis cyntaf bywyd, a darparu cyfleoedd i blant mamau sy'n gweithio fwyta bwydydd iachach a bod yn fwy egnïol yn gorfforol, yn cefnogi plant i gael pwysau iachach.

Canfu'r tîm adolygu dystiolaeth gymedrol sy'n cefnogi hyrwyddo bwydo ar y fron, lleihau cynnydd cyflym mewn pwysau yn ystod 13 mis cyntaf bywyd, monitro cyfradd twf y plentyn yn ystod dwy flynedd gyntaf ei fywyd (yn enwedig ar gyfer babanod â thwf dal i fyny), hyrwyddo diddyfnu dan arweiniad babi, lleihau'r defnydd o ddiodydd llawn siwgr, ac addysgu a chefnogi'r rhoddwyr gofal ehangach i ddarparu bwydydd a chyfleoedd iachach ar gyfer chwarae a gweithgarwch corfforol.

Rydym yn falch ein bod wedi cymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn sy'n rhoi cipolwg gwerthfawr ar y ffactorau sy'n gysylltiedig â byw gyda gorbwysau neu ordewdra ymhlith plant o dan bump oed. Mae'n arbennig o bwysig bod yr ymchwil hon wedi digwydd yng Nghymru, lle mae dros chwarter y plant rhwng pedair a phump oed dros bwysau neu'n ordew. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio fel Partner Cydweithio yng Nghanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n ceisio sicrhau bod polisïau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf sydd ar gael.

                                                    Dr Susan Myles, Director, Technoleg Iechyd Cymru

Dywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Gofynnwyd am y gwaith gan dîm Iechyd ac Anghydraddoldebau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, fel rhan o waith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, i helpu i lywio'r strategaeth a'r cynlluniau cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach.  Mae timau ymchwil Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu sylfaen dystiolaeth i wella polisi a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

                  Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil                                  Iechyd a Gofal Cymru

Pwysig i'w nodi

Gall canfyddiadau'r adolygiad hwn fod yn wahanol i adolygiadau eraill. Mae'r adolygiad hwn ond yn adrodd ar ganyniadau gorbwysau neu ordewdra lle maen nhw’n cael eu mesur cyn iddynt gyrraedd pum mlwydd oed, tra bod adolygiadau blaenorol wedi mesur y canlyniadau hyn dros ystod oedran ehangach. Mae'r adolygiad hwn hefyd yn canolbwyntio ar dystiolaeth sy'n dynodi'n plant sy’n byw gyda gorbwysau neu ordewdra gan ddefnyddio mynegai màs y corff yn benodol (neu fesurau eraill a dderbynnir yn dda ar gyfer plant o dan ddwy flynedd).

Darllenwch yr adroddiad llawn yn Llyfrgell Adroddiadau’r Ganolfan Dystiolaeth