
Dim Ben a Jerry ydyn ni, ond Libby a Deni!
5 Tachwedd
Blog am bartneriaeth gyhoeddus a chyd-gynhyrchu mewn ymchwil.
Beth yw eich hoff flas? Fy un i yw Phish Food, mae Deni yn hoffi Karamel Sutra. Mae yna lawer o enghreifftiau enwog o bartneriaethau o Ben a Jerry i Batman a Robin. Enghraifft wych o bartneriaeth yw’r hyn y mae Deni a fi wedi bod yn ei wneud ers 15 mis bellach.
Nes i orfod rhoi’r gorau i weithio yn 2016, ond drwy ddarganfod byd ymchwil a chynnwys defnyddwyr gwasanaeth, roedd pwrpas i fy mywyd eto. Mae'n ffordd wych o ailddefnyddio fy sgiliau a fy mhrofiad uniongyrchol. Do’n i heb glywed y term cyd-gynhyrchu nes 2018 pan ymunais â’r astudiaeth FAMILIAR (PhD sy’n cael ei gyd-gynhyrchu) fel cyd-ymchwilydd. Penderfynais ddysgu mwy am gyd-gynhyrchu mewn lleoliad hyfforddiant ffurfiol, gyda Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru.
Cyd-gynhyrchu? Beth mae hynny’n ei olygu i ni? Rydyn ni i gyd wedi clywed am gyd-gynhyrchu, “gyda ni, nid amdanom ni”. Er bod hynny’n hawdd dweud, talcen caled yw gweithredu cyd-gynhyrchu go iawn. Beth ydw i’n ei olygu wrth ddweud cyd-gynhyrchu “go iawn”? Rwy’n golygu ei fod yn ‘bartneriaeth cyfartal lle mae’r ddau barti â’r un awdurdod’. Dydyn ni’m eisiau bod yn eistedd wrth y bwrdd yn unig, a pheidio â bod yn rhan o’r tîm.
Meddyliwch sut rydych chi wedi cyd-gynhyrchu hyd yma? Ydych chi'n rhoi'r un pŵer i aelodau’r cyhoedd â chi'ch hun? Ydych chi wedi gofyn iddyn nhw os ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw'r un pŵer? Efallai eich bod yn meddwl eu bod nhw wedi cael cyfle i gyd-gynhyrchu, ond yn ymarferol, dw i’n teimlo bod rhwystrau hierarchaidd, ac mae’n anodd chwalu’r rheiny. Pa mor bell y mae angen i ni fynd er mwyn rhoi sedd wrth y bwrdd iddynt?
Mae mynd i'r afael â'r angen i feithrin ymddiriedaeth, bod yn gynhwysol, trylwyr a hyblyg yn gofyn am broses sy'n chwalu dynameg pŵer a hierarchaethau. Mae'n gofyn am gydnabyddiaeth o wahanol farnau a symud y tu hwnt i ragoriaeth dybiedig gwyddoniaeth 'wrthrychol', i rywle lle mae ehangder gwybodaeth a phrofiadau byw yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a'u defnyddio.
Dros y 10 mis diwethaf mae Deni a minnau wedi gweithio gyda'n gilydd ar bopeth o ddatblygu dogfennau strategaeth, dulliau ar gyfer cipio effaith o ymwneud â'r cyhoedd, a rhedeg ein Grŵp Partneriaeth Gyhoeddus o ddydd i ddydd. Rydym yn rhannu'r llwyth gwaith a'r atebolrwydd rhyngom, megis cadeirio'r grŵp a chreu dogfennau newydd. Bob mis, rydyn ni’n cael sesiwn "dal i fyny" i wneud yn siŵr ein bod yn iawn. Mae hyn hefyd yn gyfle i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’n gilydd. Mae bod yn gyd-arweinwyr yn golygu bod gan y ddau ohonom sedd gyfartal wrth y bwrdd. Rydym eisoes wedi chwalu rhwystrau i gynhwysiant a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Mae gan gydweithio ei heriau ei hun, gan gynnwys deall barn wahanol, a hyblygrwydd wrth gyfaddawdu. Y peth pwysig wrth gydweithio yw cyfathrebu effeithiol; gwrando gweithredol. Mae meithrin ymddiriedaeth rhwng partneriaid hefyd yn hanfodol i'r broses, yn ogystal â sicrhau bod pawb yn agored i adborth a newid pan fo angen. Mae'r berthynas waith y mae Deni a minnau wedi'i chreu dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos bod modd i gyd-gynhyrchu fod yn foddhaus, yn gynhyrchiol ac yn rhywbeth all gael effaith go iawn.
Am fwy o wybodaeth am Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus y Ganolfan Dystiolaeth, cliciwch yma.