Pa mor effeithiol yw ymyriadau i gefnogi iechyd a lles meddyliol ac emosiynol pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)? Adolygiad Cyflym

Cefndir / Nod yr Adolygiad Cyflym

Mae problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc wedi parhau i gynyddu dros y degawd diwethaf. Mae lles emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth strategol allweddol i Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud sawl ymrwymiad i gefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc drwy fentrau fel y 'dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol'. Mae gwasanaethau cymorth hefyd ar gael mewn addysg uwch a llawer o weithleoedd. Fodd bynnag, er bod dulliau o gynnal neu wella iechyd meddwl a lles yn y lleoliadau hyn yn hynod werthfawr, mae'n bwysig deall pa fesurau neu ymyriadau cefnogol cymunedol amgen sy'n effeithiol i bobl ifanc nad ydynt o bosib yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hyn. Amcangyfrifir bod 13.4% o bobl ifanc (16-24 oed) yn cael eu hystyried yn NEET ledled y DU. Canfuwyd hefyd fod pobl ifanc NEET yn fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl na phobl ifanc nad ydynt yn NEET. O'r herwydd, nod yr adolygiad cyflym hwn yw nodi effeithiolrwydd ymyriadau i gefnogi iechyd a lles meddyliol ac emosiynol ymhlith pobl ifanc NEET.

Adroddiad Llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR0043