Poen Parhaus yng Nghymru: Cyffredinrwydd a Defnydd Gofal Iechyd o Astudiaeth Garfan Ôl-weithredol ar Raddfa'r Boblogaeth

Am beth mae hwn?
Mae poen parhaus - poen hirdymor sy'n para dros dri mis - yn broblem fawr i lawer o bobl ac mae’n rhoi pwysau ar y GIG. Yn 2023, gwnaed poen parhaus yn flaenoriaeth genedlaethol gan Lywodraeth Cymru. I gefnogi hyn, mae ein hymchwilwyr wedi gweithio ar y cyd â Pherfformiad a Gwella GIG Cymru, yn ogystal â Gwasanaeth Byw'n Dda Powys, i wneud darn o ymchwil ar y pwnc hwn. Bydd hyn yn helpu i lywio gwasanaethau a pholisïau iechyd yn y dyfodol.

Beth edrychodd yr astudiaeth arno?
Defnyddiodd yr ymchwil hon gofnodion iechyd dienw o bob cwr o Gymru rhwng 2010 a 2023. Canolbwyntiodd ar bobl ag arwyddion o boen parhaus a'u cymharu â phobl heb arwyddion o boen parhaus.

Pwy oedd wedi'i gynnwys?
Edrychodd yr astudiaeth ar ddata dienw ar gyfer pobl sydd wedi cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru sy'n rhannu eu data gyda Banc Data SAIL. Nodwyd tri grŵp â phoen parhaus:

  • Y rhai sydd â diagnosis poen yn eu cofnodion.
  • Y rhai a gafodd boenladdwyr cryf (e.e. opioidau, gabapentinoidau) ar bresgripsiwn am o leiaf 3 mis.
  • Y rhai a atgyfeiriwyd i wasanaethau poen arbenigol.

Roedd pedwerydd grŵp, nad oedd yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf hyn, wedi bod yn fodd i gymharu.

Prif Ganfyddiadau

  • Pa mor gyffredin yw poen parhaus?
    Mae oddeutu 15% o boblogaeth Cymru yn byw gyda phoen parhaus.
    • Roedd gan 10% ddiagnosis yn gysylltiedig â phoen.
    • Roedd 7.3% yn cymryd meddyginiaeth poen am gyfnod hirdymor.
    • Roedd 1.85% wedi gweld arbenigwr ar gyfer poen.
  • Ar bwy mae’r effaith fwyaf?
    • Roedd pobl hŷn (yn enwedig rhwng 61 a 70 oed), menywod, a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd tlotach yn fwy tebygol o brofi poen parhaus.
    • Roedd pobl â phoen parhaus hefyd yn tueddu i fod â phroblemau iechyd eraill a lefelau uwch o eiddilwch.
  • Defnyddio gwasanaethau'r GIG:
    • Roedd pobl â phoen parhaus yn cael 63% yn fwy o apwyntiadau a phresgripsiynau gan feddyg teulu na phobl heb boen.
    • Roedd y rhai a atgyfeiriwyd at glinigau poen yn aml yn iau a llai eiddil na'r rhai nad ydynt yn cael eu hatgyfeirio - sy'n awgrymu y gallai rhai fod yn colli allan ar ofal arbenigol.
  • Newidiadau dros amser:
    • Bu gostyngiad bach yn amlder poen parhaus, o bosibl oherwydd newidiadau yn y ffordd y mae meddygon teulu yn cofnodi poen neu oherwydd arferion presgripsiynu newydd.
    • Hyd yn oed ar ôl addasu ar gyfer oedran a ffactorau eraill, roedd defnyddio gofal iechyd yn parhau i gynyddu ymhlith pobl â phoen parhaus, yn enwedig ymweliadau â meddygon teulu a derbyniadau i'r ysbyty.

Beth mae hyn yn ei olygu?

  • Angen heb ei ddiwallu: Efallai nad yw pobl hŷn a phobl fwy difreintiedig yn cael y gofal arbenigol y mae ei angen arnynt.
  • Anghydraddoldebau iechyd: Mae patrymau bod mewn poen a defnyddio gwasanaethau yn adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol ehangach.
  • Cynllunio’r GIG: Mae poen parhaus yn gosod galw cynyddol ar wasanaethau'r GIG

Beth dylid ei wneud?

Ar sail canfyddiadau'r astudiaeth hon, argymhellwyd y canlynol o ran polisi a darparu gwasanaethau:

  • Gwella sut mae poen parhaus yn cael ei gofnodi a'i nodi mewn practisau meddygon teulu.
  • Mynd i'r afael â rhwystrau sy'n atal pobl – yn enwedig unigolion hŷn neu dlotach – rhag cael cymorth poen arbenigol.
  • Gwrando ar brofiadau cleifion eu hunain a'u cynnwys wrth gynllunio gwasanaethau.

 

Awdur: Libby Humphris, PPG

Adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
PR0015