Rhaglen Waith
Mae ymgynghori ag arweinwyr Polisi, GIG a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn allweddol i ddatblygu ac ateb y cwestiynau ymchwil cywir yng Nghanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hyn yn helpu i sicrhau y gellir defnyddio ein hymchwil i wella polisi ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol yn uniongyrchol.
Rhaglen waith synthesis tystiolaeth gyflym
Angen tystiolaeth | Cwestiwn ymchwil | Sut y bydd y dystiolaeth yn cael ei defnyddio | Grŵp Rhanddeiliaid |
---|---|---|---|
Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth a Dadansoddiad Cost-effeithiolrwydd | Sut gall Gofal Iechyd a dulliau economaidd iechyd seiliedig ar werth lywio penderfyniadau yng Nghymru yn well? | Llywio dulliau dadansoddi cost-effeithiolrwydd gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth | Tîm Cyngor ar Dystiolaeth Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru |
Cost-effeithiolrwydd gwasanaethau bywyd ar ôl strôc | Pa mor gost-effeithiol yw gwasanaethau bywyd ar ôl strôc gan nodi enghreifftiau penodol neu Adenillion ar fuddsoddiad o ran y defnydd o adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol? |
Llywio darpariaeth gwasanaeth (yn cael ei drawsnewid gan Weithrediaeth y GIG) | Y Gymdeithas Strôc |
Ymyriadau i liniaru effeithiau andwyol (addysgol, iechyd a lles) rhieni'n gwahanu yn ystod plentyndod ar gyfer plant agored i niwed | Beth yw’r canlyniadau ar gyfer plant sy’n cymryd rhan mewn achosion cyfraith teulu preifat oherwydd bod eu rhieni’n gwahanu? | Llywio datblygiad gwaith partneriaeth amlasiantaethol i ddiwallu anghenion plant bregus o deuluoedd sy'n gwahanu a llywio a dylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r grŵp hwn o blant a phobl ifanc agored i niwed | Cafcass Cymru (polisi) |
Cost effeithiolrwydd y gwasanaethau ailalluogi camu ‘mlaen cartref er mwyn lleihau derbyniadau i'r ysbyty a lleddfu anghenion gofal hirdymor | Yn yr arfaeth | Llywio penderfyniadau o ran cyllid gofal cymdeithasol, adnoddau polisi ac awdurdodau lleol | Tîm polisi ar gyfer gofalwyr gofal cartref a gofalwyr di-dâl |
Dilysrwydd ac effeithiolrwydd yr adnoddau rhagfynegi risg er mwyn nodi cleifion sy'n addas i gael llawdriniaeth mewn hybiau llawfeddygol rhanbarthol risg isel | Dilysrwydd ac effeithiolrwydd yr adnoddau rhagfynegi risg er mwyn adnabod cleifion sy'n addas i gael llawdriniaeth mewn hybiau llawfeddygol rhanbarthol risg isel? | Llywio’r arweiniad ar gyfer hybiau llawfeddygol rhanbarthol | Gofal a Gynlluniwyd - Cymru |
Effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd modelau’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig e.e. gwasanaethau gofal acíwt yn y gymuned | Yn yr arfaeth | Llywio dylunio gwasanaethau heb eu trefnu ledled Cymru | Comisiwn Bevan a thîm gofal heb ei drefnu y GIG |
Twristiaeth Feddygol | Beth yw'r costau a'r manteision i'r GIG o dwristiaeth feddygol allanol ar gyfer llawdriniaethau dewisol? | Llywio polisi gofal iechyd ar ddarpariaeth ôl-ofal y GIG ar gyfer llawdriniaeth bariatrig cleifion yn breifat neu dramor | Polisi iechyd y cyhoedd ac anghydraddoldebau |
Nodi’r dulliau mesur canlyniadau a adroddwyd gan gleifion ac a ddilyswyd at ddibenion cyflawni nodau neu newid mewn swyddogaeth i'w defnyddio gan y Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHPs) a’r timau aml-broffesiynol ledled Cymru | Yn yr arfaeth | Llywio datblygu’r dangosfwrdd data at ddefnydd AHPs a gwasanaethau adsefydlu ledled Cymru | Fframwaith Iechyd Perthynol Proffesiynol Cymru |
Effeithiolrwydd yr ymyriadau a wneir i wella ecwiti mewn canlyniadau iechyd ar gyfer cleifion ag anableddau dysgu sy'n derbyn cymorth y gwasanaeth cyswllt | Yn yr arfaeth | Llywio’r cynllun gweithredu strategol anableddau dysgu | Y Tîm Anableddau Dysgu |
Effeithiolrwydd yr ymyriadau ymysg plant a phobl ifanc i gynnal/gwella iechyd a lles meddyliol ac emosiynol, cynyddu gwydnwch a lleihau'r angen am wasanaethau iechyd meddwl | Yn yr arfaeth | Llywio datblygu rhaglenni’r Bwrdd Iechyd | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Lleoliadau Hunan-laddiad a Hunan-niweidio | Beth yw effeithiolrwydd ymymriadau heblaw am gyfyngu'n gorfforol i leihau synio am hunan-laddiad, ceisio hunan-ladd, a marwolaethau mewn lleoliadau cyhoeddus? | Llywio protocol cenedlaethol | Weithrediaeth GIG Cymru |
Modelau darpariaeth iechyd a gofal i fynd i’r afael â chyd-forbidrwydd | Yn yr arfaeth | Llywio rhaglen genedlaethol a chynllunio strategol y rhwydwaith clinigol | Uwch-dîm Arweinyddiaeth Gweithrediaeth y GIG |
Effeithiolrwydd yr ymyriadau ymysg plant a phobl ifanc i gynnal/gwella iechyd a lles meddyliol ac emosiynol, i gael rhagor o wytnwch a lleihau'r angen am wasanaethau iechyd meddwl | Yn yr arfaeth | Llywio’r gwaith o ddatblygu rhaglenni’r Bwrdd Iechyd | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Rhaglen waith ymchwil sylfaenol
Angen tystiolaeth | Cwestiwn ymchwil | Sut y bydd y dystiolaeth yn cael ei defnyddio | Grŵp Rhanddeiliaid |
---|---|---|---|
Gwyddor Data Poblogaeth | |||
Effaith cost gofal lliniarol ar wasanaethau gofal iechyd brys yng Nghymru |
Yn yr arfaeth | Modelau a strwythurau ariannu gofal lliniarol | Gofal Lliniarol a Diwedd Oes (GIG) |
Effaith cost cleifion â phoen parhaus ar wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru | Yn yr arfaeth | Llywio strategaeth genedlaethol a darpariaeth gwasanaeth | Arweinwyr Poen Cronig (GIG) |
Gwerthusiad o’r fenter Safe@Home | Yn yr arfaeth | Gwerthuso’r fenter Safe@Home | Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Mewnol | |||
Dad-feddygoli cynhyrchion heb glwten | Dad-feddygoli cynhyrchion heb glwten drwy gynllun cerdyn cymhorthdal – archwilio barn ar y cynllun, gan gynnwys effaith ar ansawdd bywyd, goblygiadau economaidd canfyddedig a rhwystrau posibl i’r nifer o bobl sy’n manteisio arno. | Llywio argymhellion wrth adolygu Cyfeintiau Dosbarthu mewn Strategaeth Fferylliaeth Gymunedol |
Fferyllol (Polisi) |
Gwerthusiad o Wasanaethau Iechyd Merched yng Nghymru | Yn yr arfaeth |
Llywio polisi a darpariaeth gwasanaeth barhau s yn y maes hwn | Cyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio (polisi) |
Dyma Raglen Waith Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru arfaethedig Ionawr 2024 – Mawrth 2025. Gellir diwygio'r rhaglen hon os bydd anghenion tystiolaeth polisi / ymarfer yn newid (gellir addasu neu ddileu prosiectau presennol, a gellir ychwanegu cwestiynau â blaenoriaeth uchel).