Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd ymyriadau sy’n gwneud cartrefi’n gynhesach ac yn rhatach i’w cynhesu, ar gyfer aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell

Mae’r argyfwng costau byw wedi bod yn amlwg yn y DU ers dechrau 2021.

Mae byw mewn ardal wledig yn aml yn gysylltiedig â chostau ychwanegol o gymharu ag ardaloedd trefol.  

Ymhlith y rhesymau dros hynny mae’r rhain:

  • Cartrefi nad ydynt wedi'u cysylltu â chyflenwad nwy prif gyflenwad 
  • Defnyddio olew drud neu nwy petroliwm ar gyfer gwresogi 
  • Hen stoc tai mewn ardaloedd gwledig 
  • Adeiladau sydd heb eu hinswleiddio'n dda, a systemau gwresogi llai effeithlon 

Gellir diffinio tlodi tanwydd fel aelwyd sy'n gwario mwy na 10% o'i hincwm ar danwydd ar gyfer gwresogi a chysur boddhaol ac ar dalu am yr holl wasanaethau ynni.


Nod

Pennu effeithiolrwydd ymyriadau sy’n gwneud cartrefi’n gynhesach ac yn rhatach i’w cynhesu ar gyfer aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd mewn cartrefi gwledig neu anghysbell.   

Roedd dod o hyd i atebion i'r cwestiynau hyn yn hollbwysig i'r tîm adolygu. 


Canlyniadau 

Cafodd 14 astudiaeth ac wyth ffynhonnell o lenyddiaeth lwyd eu cynnwys yn yr adolygiad, a gyhoeddwyd rhwng 2007 a 2022. 

Tystiolaeth o Effeithiolrwydd:

Gwelliannau / ôl-osod mesurau effeithlonrwydd ynni i'r cartref  

  • graddfeydd effeithlonrwydd ynni wedi gwella’n sylweddol a thymheredd ystafelloedd byw yn uwch
  • ni wnaeth biliau ynni ostwng yn sylweddol  

Gwelliannau cartref, megis newid bylbiau golau a gwresogyddion trydan  

  • graddfeydd effeithlonrwydd ynni uwch 
  • lleihau'r defnydd o drydan 
  • ni chanfuwyd unrhyw newid yn y defnydd o nwy  

Gosod gwres canolog 

  • gwella gallu deiliaid tai yn sylweddol i dalu biliau ynni  
  • costau ynni llai 
  • roedd llai o aelwydydd yn osgoi gwresogi eu cartrefi oherwydd costau
  • ychydig iawn o newid yn y tymheredd dan do ar gyfartaledd

Gwelliannau cartref (inswleiddio allanol / systemau gwresogi / insiwleiddio llofft)

  • cysur thermol uwch 
  • defnydd ynni llai 

Cyngor yn ymwneud ag ynni  

  • yn gallu cael effaith ar arbedion biliau ynni 

Llywodraeth Cymru | Arbed (mesurau gwella cartrefi ac effeithlonrwydd ynni) 

  • cynyddu’n sylweddol y tebygolrwydd y bydd deiliaid tai yn gosod mesurau effeithlonrwydd ynni  
  • gwell arbedion ynni 
  • costau llai   
  • ymwybyddiaeth gynyddol o ymddygiad sy'n gysylltiedig ag ynni

Llywodraeth Cymru | Arbed (mesurau gwella cartrefi ac effeithlonrwydd ynni) 

  • cynnydd sylweddol mewn tymheredd aer dan do   
  • tymereddau parth cysur iach (18-240c)  
  • gwell boddhad thermol 
  • llai o ddefnydd nwy dyddiol ar gyfartaledd a llai o anawsterau ariannol   
  • llai o bobl yn gorfod teimlo'n oer er mwyn arbed costau gwresogi
  • costau ynni wedi'u lleihau, a graddfeydd effeithlonrwydd ynni wedi'u gwella (graddau EPC a SAP)

Llywodraeth Cymru | Nyth (gwelliannau cartref a chyngor) 

  • galluogi deiliaid tai i gynhesu eu cartrefi yn well  
  • lleihau eu biliau ynni 
  • mwy o ymwybyddiaeth o ddefnydd ynni  

Cyngor ar ynni cartref, atgyfeirio am gymorth a/neu fesurau inswleiddio neu welliannau i'r cartref

  • gall wneud cartrefi'n gynhesach, yn rhatach i'w gwresogi  
  • galluogi deiliaid tai i gadw i fyny â thaliadau biliau ynni  

Cymorthdaliadau ynni cymdeithaso

  • efallai na fydd yn effeithiol o ran lleihau tlodi tanwyd
  • roedd tai cymdeithasol ynni effeithlon yn ddull mwy effeithlon o liniaru tlodi tanwydd 

Cryfder y Dystiolaeth 

Dylid dehongli'r canlyniadau yn ofalus, gan fod sicrwydd o ran y dystiolaeth yn isel iawn oherwydd ansawdd yr astudiaethau a gynhwysir. Mae'n bosibl, gydag astudiaethau ymchwil newydd, y gallai canfyddiadau'r adolygiad cyflym hwn newid.

Goblygiadau Polisi ac Arferion

  • Mae angen treialon rheoledig o ansawdd uchel sydd wedi'u datblygu'n dda i ymchwilio i effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd mesurau a chyngor yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni. 
  • Dylai ymchwil yn y dyfodol ymchwilio i ba ymyriadau sydd fwyaf effeithiol ym mha fathau o dai mewn ardaloedd gwledig i helpu i dargedu ymyriadau yn well. 
  • Mae angen i lunwyr polisïau a chyrff cyllido fuddsoddi ymhellach mewn ymchwil sy'n canolbwyntio ar fesurau i liniaru tlodi tanwydd, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddadansoddi economaidd.  
  • Mae’n ymddangos yn bwysig iawn bod yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn cael eu gweithredu.  

Crynodeb Hygyrch, ysgrifennwyd gan Debs Smith, Ebrill 2023

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR0002