Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a derbynioldeb hybiau llawfeddygol wrth gefnogi gweithgaredd gofal wedi'i gynllunio

Fe wnaeth pandemig COVID-19 waethygu tarfu ar wasanaethau gofal dewisol yn y DU ymhellach, gan arwain at arosiadau hirach am driniaeth ac ôl-groniad cynyddol i lawdriniaethau dewisol. Mae hybiau llawfeddygol yn elfen allweddol o'r strategaeth adfer ddewisol ar gyfer y GIG a gallant chwarae rhan hanfodol wrth leihau'r ôl-groniad gofal dewisol. Nod yr hybiau hyn yw cynyddu capasiti llawfeddygol trwy ddarparu mynediad cyflymach at driniaethau, yn ogystal â hwyluso rheolaeth haint trwy wahanu cleifion a staff oddi wrth ofal brys.

Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd asesu effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a derbynioldeb hybiau llawfeddygol wrth gefnogi gweithgarwch gofal wedi'i gynllunio, er mwyn llywio'r gwaith o roi'r hybiau hyn ar waith yng Nghymru.

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR0004