front cover for the report, logos and lines of colour, blue, red, yellow, green

Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024

14 Awst

Rydym ni’n falch o rannu Addroddiad Blynyddol cyntaf  Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Adroddiad Blynyddol y Ganolfan Dystiolaeth 2023 – 2024

Mae’r adroddiad yn arddangos ein hymchwil trylwyr, amserol, a pherthnasol, sy’n mynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru, y GIG, Gofal Cymdeithasol Cymru, a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, fe wnaethom ni dderbyn 145 o gwestiynau gan ein rhanddeiliaid. Drwy gydweithio gyda’n pum partner, fe wnaethom lwyddo i gynnwys 29 o’r cwestiynau iechyd a gofal cymdeithasol hyn ar ein Rhaglen Waith. Mae adroddiadau o 14 darn o ymchwil eisoes ar gael yn ein llyfrgell adroddiadau, ynghyd â chrynodebau lleyg a ffeithluniau.

Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys:

  • cydweithio gyda Technoleg Iechyd Cymru mewn adolygiad cyflym i fesur iechyd meddwl mewn argyfwng costau byw. Cyfeirir at yr adroddiad ar hyn o bryd yn y drafft o Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb gan Lywodraeth Cymru.
  • mae’r gwaith a gynhaliwyd gan Gydweithrediad Synthesis Tystiolaeth Caerdydd i ddiogelwch ‘triniaethau arbennig (e.e. tatŵio, tyllu),’ yn cael ei ddefnyddio i helpu i lywio Rhan 4: Triniaethau Arbennig yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, a chanllawiau ymarferwyr.
  • gan weithio gyda Iechyd y Cyhoedd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru fe wnaethom edrych ar ffyrdd o gefnogi oedolion hŷn i oresgyn heriau y gallant eu hwynebu wrth gyrchu neu ddeall y byd digidol.
  • gwaith i helpu i lywio ail-ddylunio darpariaeth gwasanaeth deintyddol yng Nghymru, mewn ffordd sy’n diwadd anghenion a disgwyliadau cleifion.  
  • fe wnaeth Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor archwilio’r costau, buddion a gwerth gwasanaethau gofal lliniarol i helpu i lywio Bwrdd Rhaglen Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes.

Mae Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus (PPG) sy’n cynnwys 10 aelod wedi chwarae rôl bwysig ym mlwyddyn cyntaf y Ganolfan o waith. Maen nhw’n cymryd rhan yn ein hymchwil i gyd, gan helpu i fireinio’r cwestiynau ymchwil, deal pwysigrwydd canfyddiadau, ac ysgrifennu crynodebau lleyg i gyd-fynd â’n holl adroddiadau terfynol.

Rydym ni’n ddiolchgar iawn i’n hariannwr, Llywodraeth Cymru (wedi’i ariannu drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru).

Dros y pedair blynedd nesaf, bydd y Ganolfan Dystiolaeth yn parhau i roi sylw i ystod eang o faterion iechyd a gofal cymdeithasol pwysig, sy’n effeithio pobl yng Nghymru.

Mae’r holl adroddiadau’n cael eu cyhoeddi yn y Llyfrgell Adroddiadau. Cliciwch y ddolen i weld ein Rhaglen Waith gyfredol.