Laptop on a table showing an online webinar taking place.

Llesiant yn y Gwaith: Cefnogi Iechyd a Llesiant yn y Gwaith

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi manylion gweminar sydd i ddod, a fydd yn cael ei gynnal gan Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn tynnu sylw at ein hastudiaeth ‘Llesiant mewn gwaith – cefnogi pobl mewn gwaith ac i ddychwelyd i'r gweithlu: adolygiad o dystiolaeth economaidd'.

Gweler y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth a chofrestru! 

https://rhwydwaithiechydcyhoeddus.cymru/Digwyddiad/wellness-in-work-supporting-health-and-wellbeing-at-work/

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Beth yw manteision economaidd sicrhau iechyd a llesiant y gweithlu yng Nghymru? Pa ymyriadau sy’n effeithiol ac yn gost-effeithiol mewn perthynas ag iechyd yn y gweithle?  A pha gymorth sydd ei angen ar gyflogwyr llai i roi ymyriadau a dulliau llesiant ar waith?

Wedi’i chadeirio gan Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd-arweinydd Cymru Iach ar Waith (Iechyd Cyhoeddus Cymru), bydd y weminar hon yn clywed gan academyddion sydd wedi gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso i ddeall beth sy’n gweithio mewn perthynas â dulliau iechyd yn y gweithle.

Bydd yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, prif awdur adolygiad tystiolaeth economaidd ‘Wellness in Work’ (Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru/Prifysgol Bangor), yn rhoi mewnwelediad i’r canfyddiadau ac yn trafod y mathau o ymyriadau sy’n debygol o fod yn fwyaf cost-effeithiol wrth wella llesiant yn y gwaith.

Bydd Nigel Lloyd (tîm PHIRST Connect a ariennir gan NIHR ym Mhrifysgol Swydd Hertford) yn amlinellu canfyddiadau gwerthusiad o gymorth iechyd a llesiant yn y gweithle mewn busnesau bach a chanolig (SMEs) yn Walsall, gan ganolbwyntio’n benodol ar y prif rwystrau a nodwyd i Ymgysylltu a gweithredu SME a sut y gellid mynd i’r afael â nhw.

Am ddim
-

Gweminar