Effaith bod yn ddigartref ar ganlyniadau clinigol COVID-19: adolygiad systematig

Mae'r boblogaeth ddigartref yn profi anghydraddoldeb o ran iechyd o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol, a allai fod wedi ehangu yn ystod pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae effaith bod yn ddigartref ar ganlyniadau COVID-19 yn ansicr. Nod yr adolygiad systematig hwn oedd dadansoddi effaith profi digartrefedd ar ganlyniadau clinigol COVID-19, gan gynnwys yr effeithiau ar anghydraddoldebau iechyd.

Cafwyd 8,233 o ganlyniadau cychwynnol o'r chwiliadau; ar ôl sgrinio, cafodd 41 o astudiaethau eu cynnwys. Yn gyffredinol, dangosodd tystiolaeth fod y rhai mewn lleoliadau byw gorlawn yn profi risg uwch o haint COVID-19 o'i gymharu â phobl sy'n cysgu ar y stryd a'r boblogaeth yn gyffredinol. Roedd y boblogaeth ddigartref yn profi cyfraddau uwch o gael eu derbyn i ysbytai a marwolaethau na'r boblogaeth gyffredinol, cyfraddau brechu is, ac yn dioddef effeithiau negyddol ar iechyd meddwl.

Dyddiad:
Cyfeirnod:
PR0010