Pa ddatblygiadau arloesol sy'n helpu gyda recriwtio a chadw ymwelwyr iechyd

Yng Nghymru, cyhoeddwyd cynllun gweithlu'r GIG ym mis Chwefror 2023 ac yna cynllun cadw cenedlaethol ar gyfer nyrsio yn hydref 2023.

Cysylltwyd â'r Ganolfan Dystiolaeth i weld a oedd unrhyw dystiolaeth o arfer arloesol mewn perthynas â recriwtio a chadw ymwelwyr iechyd yn benodol, a allai fod yn drosglwyddadwy i Gymru.

Cynhaliwyd crynodeb cyflym o dystiolaeth gan Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyda Chanolfan Cymru ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth a oedd â'r nod o nodi pa arloesiadau a allai helpu i recriwtio a chadw ymwelwyr iechyd yng Nghymru.

Ni ddaeth chwiliad a gynhaliwyd ym mis Mai 2023 o hyd i unrhyw dystiolaeth ymchwil eilaidd na sylfaenol a ymchwiliodd yn benodol i ddatblygiadau arloesol a allai helpu recriwtio a chadw ymwelwyr iechyd yng Nghymru, ledled y DU neu'n rhyngwladol. Mae hyn yn tynnu sylw at fwlch tystiolaeth y gallai ymchwil yn y dyfodol ei lenwi drwy ddatblygu a gwerthuso datblygiadau arloesol a allai helpu i recriwtio a chadw ymwelwyr iechyd yng Nghymru.

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RES0012