Effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer atal problemau ymatal o ganlyniad i drawma geni: adolygiad cyflym
Cefndir a Chyd-destun
Edrychodd yr adolygiad cyflym hwn ar ba mor effeithiol yw ymyriadau gwahanol ar gyfer atal *materion ymataliaeth sy’n cael eu hachosi gan drawma i’r perinëwm wrth roi genedigaeth, sef anaf i'r perinëwm (y meinwe rhwng y fagina a'r anws) sy'n digwydd mewn tua 85% o enedigaethau o’r fagina yn y DU.
Mae hyn yn bwysig oherwydd, yn y tymor byr, canolig a hir, gall y math hwn o niwed sy'n gysylltiedig â genedigaeth gynyddu'r risg o ddatblygu anymataliaeth wrinol ac ysgarthol yn sylweddol.
Mae anymataliaeth hefyd yn faich trwm ar y GIG, yn enwedig "anymataliaeth wrinol oherwydd straen" (sy’n cael ei achosi gan bwysau ar y bledren oherwydd peswch neu disian), sy'n costio tua £177 miliwn y flwyddyn.
Nodau
Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd dod o hyd i dystiolaeth ynghylch pa ymyriadau sy’n gweithio orau i atal anymataliaeth yn dilyn genedigaeth, a’r gost sy’n gysylltiedig â’r ymyriadau hynny.
Strategaeth
Fe wnaeth yr ymchwilwyr gynnal chwiliad llenyddol o'r dystiolaeth a chanfod tair ar hugain o astudiaethau perthnasol. Cyhoeddwyd yr astudiaethau dros gyfnod o un mlynedd ar hugain o 2003 ymlaen.
Canlyniadau
Mae canfyddiadau’r adolygiad cyflym hwn yn awgrymu y gall ymyriadau sy’n seiliedig ar ymarfer corff, yn enwedig Ymarferion Cyhyrau Llawr y Pelfis cyn ac ar ôl geni atal anymataliaeth wrinol. Nid oedd llawer o dystiolaeth ynghylch cost effeithiolrwydd yr ymyriadau hyn, ond mae’n amlwg bod buddsoddi mewn dulliau ataliol, clinigol effeithiol i leihau baich anymataliaeth ar y GIG yn allweddol. Roedd y dystiolaeth ynglŷn â defnyddio dyfeisiau i’r fagina a thylinio’r perinëwm cyn rhoi genedigaeth yn llai clir, yn enwedig o ran anymataliaeth ysgarthol.
Casgliad
Yn ôl canfyddiadau’r adolygiad cyflym hwn, gellir defnyddio Ymarferion Llawr y Pelfis cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth yn strategaeth gost-effeithiol ac addas i osgoi anymataliaeth. Mae'n bwysig bod unrhyw argymhellion ar gyfer ymarfer a pholisi yn y dyfodol yn ceisio barn a phrofiadau menywod sydd wedi profi anymataliaeth ysgarthol ac wrinol a achosir gan eni plant. Mae gan yr ymyriad hwn y potensial i wella iechyd menywod mewn ffordd gost-effeithiol, gan leihau'r baich ariannol ar y GIG.
Dylai ymchwil y dyfodol hefyd geisio deall profiadau menywod yn ogystal â'u dewisiadau o ran yr ymyriadau sydd ar gael iddyn nhw, ac i ddeall a yw rhoi'r ymyriadau hyn ar waith yn ymarferol ac yn gallu osgoi anymataliaeth.
* Gelwir y gallu i reoli symudiadau eich pledren a’ch coluddyn yn ymataliaeth, tra bod anymataliaeth i'r gwrthwyneb - gollyngiad o'r naill neu'r llall.
Ysgrifennwyd gan Alexandra Strong, Aelod o'r Grŵp Partneriaeth Gyhoeddus
RR0030