Dad-feddyginiaethu cynnyrch di-glwten drwy gynllun cerdyn cymorthdaliadau: astudiaeth ansoddol o ddefnyddwyr gwasanaeth
Cefndir a Chyd-destun
Mae angen i bobl â chlefyd coeliag fwyta diet di-glwten, i osgoi cymhlethdodau hirdymor. Mae bwyd di-glwten (GFF) wedi bod ar gael ar bresgripsiwn ers diwedd yr 1960au i annog cleifion i ddilyn diet di-glwten, pan roedd argaeledd bwydydd o’r fath yn y siopau yn brin iawn. Erbyn hyn, mae bwydydd di-glwten ar gael mewn archfarchnadoedd, a gall cleifion brynu’r bwydydd sydd eu hangen heb bresgripsiwn. Cyflwynodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda gerdyn cymorthdaliadau GFF yn 2019 fel dewis amgen i roi GFF drwy bresgripsiwn, sef y dull sy’n cael ei ddefnyddio gan fyrddau iechyd eraill yng Nghymru.
Mae cyfyngiadau i’r system bresgripsiynau presennol, a nod yr ymchwil hwn yw ceisio barn cleifion am y cynllun cerdyn cymorthdaliadau i helpu pobl gyda chlefyd coeliag i brynu GFF yn rhwyddach ac archwilio a yw cael gafael ar GFF yn anodd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle gall argaeledd a fforddiadwyedd fod yn broblem.
Nodau
Dyma nodau’r astudiaeth:
- Deall barn pobl ar y system bresgripsiynu presennol
- Deall barn pobl am y cynllun cymorthdaliadau newydd
- Nodi rhwystrau a phethau fyddai’n annog pobl i ddefnyddio’r garden
- Deall beth sydd fwyaf pwysig i bobl am gael mynediad i nwyddau di-glwten
- Deall y rhesymau pam bod rhai wedi dewis peidio ag ymuno â’r rhaglen beilot dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Darparu awgrymiadau o ran sut ddylai rhaglenni i’r dyfodol gael eu cynllunio a’u cyflwyno
Strategaeth/Dull
Defnyddiodd yr astudiaeth gyfweliadau lled-strwythuredig i archwilio profiadau a safbwyntiau’r cleifion.
Cynhaliodd yr ymchwilwyr gyfweliadau gyda chleifion coeliag a rhieni plant â chlefyd coeliag. Defnyddion nhw ddull ansoddol i gasglu mewnwelediadau manwl.
Roedd yr astudiaeth yn cynnwys pobl gyda chlefyd coeliag, gan gynnwys rhai oedd yn defnyddio’r cerdyn cymorthdaliadau ar hyn o bryd, rhai oedd yn defnyddio presgripsiynau a rhai oedd wedi optio allan o’r cynllun cerdyn.
Canfyddiadau/deilliannau
- Hyblygrwydd, cyfleustra ac arbedion ariannol: Roedd y defnyddwyr yn gwerthfawrogi hyblygrwydd y cerdyn, amrywiaeth o ran nwyddau a’r cyfleustra o gymharu â phresgripsiynau. Sonion nhw ei fod yn helpu i leihau’r baich ariannol ac yn gwneud iddynt deimlo’n rhan o weithgareddau cymdeithasol.
- Heriau: Trafodwyd problemau megis rheoli balans y cerdyn, dim llawer o fanwerthwyr yn derbyn y cerdyn a gwahaniaethau o ran daearyddiaeth.
- Pryderon rhai oedd ddim yn defnyddio’r cerdyn: Roedd pobl nad oedd yn defnyddio’r cerdyn yn hoffi’r syniad o gael rhagor o ddewis ond yn poeni am chwyddiant, camddefnyddio a’r baich ychwanegol ar drethdalwyr. Roedd y rhan fwyaf (70%) yn dangos diddordeb mewn symud i gerdyn cymorthdaliadau, ond roedd grŵp llai yn teimlo’n ansicr neu’n amharod.
Beth oedd yr effaith?
Mae’r ymchwil yn amlygu potensial y cynllun cerdyn cymorthdaliadau i wella ansawdd bywyd llawer o bobl gyda chlefyd coeliag drwy wneud GFF yn fwy hygyrch a chyfleus.
Sut fydd yr ymchwil yn cael ei ddefnyddio? Bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i lywio datblygiad y cynllun cerdyn cymorthdaliadau ar draws Cymru fel opsiwn i gleifion coeliag.
Beth fydd y manteision yn y byd go iawn? Drwy weithredu’r argymhellion, gall y cynllun cerdyn cymorthdaliadau ddarparu datrysiad effeithiol a hawdd ei ddefnyddio o ran cael mynediad i GFF, fydd yn y pen draw yn cefnogi deilliannau iechyd cleifion ac yn lleihau’r baich ariannol ar gleifion a’r system ofal iechyd.
Canfyddiadau allweddol
Mae’r cynllun cerdyn cymorthdaliadau yn cynnig manteision sylweddol i gleifion, megis llai o faich ariannol, rhagor o ddewis a chyfleustra, ond mae angen gwelliannau i adnoddau digidol er mwyn rheoli balans, partneriaethau gwell gyda manwerthwyr a chyfathrebu gwell er mwyn mynd i’r afael â heriau a phryderon presennol.
Ysgrifennwyd gan Anthony Cope, Aelod o'r Grŵp Partneriaeth Gyhoeddus
PR0017