Llwybrau iechyd a gofal ym mlwyddyn olaf bywyd mewn achosion lle nad oedd y farwolaeth yn sydyn rhwng 2014 a 2023 yng Nghymru: Astudiaeth carfan ôl-weithredol ar raddfa poblogaeth

Cefndir

Bydd mwy o alw am wasanaethau gofal lliniarol ledled Cymru oherwydd bod mwy o bobl yn byw’n hirach, a bydd angen i wasanaethau iechyd a gofal reoli hyn yn effeithiol.

Weithiau, mae’n gymhleth darparu gwasanaethau iechyd a gofal ar gyfer cleifion sy’n agosáu at ddiwedd eu bywyd. Nod yr ymchwil hon oedd mesur y defnydd o wasanaethau iechyd a gofal ym mlwyddyn olaf bywyd cyn marwolaeth nad oedd yn sydyn (neu ‘disgwyliedig’). Bydd yr ymchwil yn helpu i lywio dulliau yn y dyfodol o gynllunio gofal lliniarol a diwedd oes yng Nghymru.

Nodau

Bwriad yr ymchwil hon oedd nodi gwahaniaethau yn y defnydd o wasanaethau iechyd a gofal ym mlwyddyn olaf bywyd rhwng unigolion a oedd ar gofrestr gofal lliniarol ac unigolion nad oedden nhw ar gofrestr o’r fath, yn ogystal â dod i ddeall yn well y grwpiau gwahanol o bobl a oedd yn defnyddio’r gwasanaethau.

Strategaeth

Cafodd data iechyd ei gasglu’n ddienw gan drigolion Cymru ym mlwyddyn olaf eu bywyd. Roedd y data hwn yn cynnwys cleifion a oedd yn byw gartref, mewn cartref gofal ac yn yr ysbyty.

Canlyniadau

Dangosodd yr ymchwil hon fod yr unigolion wedi treulio’r rhan fwyaf o flwyddyn olaf eu bywyd gartref a bod y galw am ofal brys wedi cynyddu’n sydyn tua diwedd eu bywyd.

Ymhlith y cleifion hynny a oedd yn byw gartref, roedd y rhai mewn ardaloedd trefol (dinasoedd a threfi) wedi defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy na’r rhai mewn ardaloedd gwledig (cefn gwlad), ac roedd y gwasanaethau’n fwy tebygol o gael eu defnyddio gan gleifion a oedd ar gofrestr gofal lliniarol na’r rhai nad oedden nhw ar gofrestr o’r fath.

Fodd bynnag, ymhlith y cleifion a oedd mewn cartref gofal, roedd y rhai a oedd ar gofrestr gofal lliniarol wedi defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal yn llai ym mlwyddyn olaf eu bywyd na’r rhai nad oedden nhw ar gofrestr o’r fath.

Roedd rhai grwpiau o bobl wedi’u tangynrychioli ar gofrestrau gofal lliniarol. Roedd y grwpiau hyn yn cynnwys dynion, pobl a oedd yn byw mewn ardaloedd trefol, pobl a oedd yn byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig a phobl a oedd yn byw ar eu pen eu hunain.

Dylai dulliau wedi’u targedu i nodi’n effeithiol yr unigolion hynny y mae angen gofal diwedd oes yn y cartref arnyn nhw, lle bo’n briodol, gael eu blaenoriaethu wrth ddarparu gwasanaethau. Bydd gwneud hyn yn helpu i wneud y defnydd gorau o adnoddau iechyd a gofal ac o bosibl yn gwella canlyniadau i gleifion. 

Awdur | Mel McAuley, Aelod Cyhoeddus

I ddarllen yr adroddiad llawn, cliciwch yma.

Dyddiad:
Cyfeirnod:
PR0020