
Dr Abubakar Sha'Aban
Cydymaith Ymchwil
Mae Abubakar, Cydymaith Ymchwil, yn cynnal ymchwil a gwerthusiadau sylfaenol sy'n cyd-fynd ag anghenion a nodwyd, gan gydweithio'n agos â rhanddeiliaid Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae'n fferyllydd academaidd sydd ag arbenigedd mewn meddygaeth bersonol ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd. Mae ganddo ddiddordeb mewn ymchwilio i wallau gofal iechyd a diogelwch cleifion, gan ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol.