
Dr Denitza Williams
Cyd-arweinydd Cynnwys y Cyhoedd
Mae Dr Williams, Darlithydd yn yr Ysgol Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn arbenigo mewn iechyd menywod, cyfathrebu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chynnwys y cyhoedd mewn ymchwil. Mae hi'n arwain prosiectau mewn Sgrinio Serfigol a gwneud penderfyniadau cyn beichiogi. Mae Denitza yn cydweithio'n agos â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, a'r OECD.