Beth yw’r dull mwyaf effeithiol o gynnal hyfforddiant Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (GBCG/MECC)? Adolygiad Cyflym

Cefndir a Chyd-destun
Mae rhaglen Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (GBCG) yn annog staff gofal iechyd ac eraill i gael trafodaethau byr ar newid ymddygiad gyda defnyddwyr gwasanaeth yn oportiwnistaidd. Mae’n defnyddio’r rhyngweithio bob dydd rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl, neu rai mewn sefydliadau eraill gan gynnwys y sector nid er elw, i’w cefnogi nhw i roi newidiadau positif ar waith i’w hiechyd corfforol a meddyliol a lles.

Y nod
Nod yr adolygiad hwn yw asesu pa rannau o hyfforddiant GBCG, neu ymyriadau tebyg, sy'n fwyaf effeithiol ac sy'n cael eu ffafrio gan y rhai a fyddai'n defnyddio GBCG yn eu gwaith.

Strategaeth 
Chwiliodd yr ymchwilwyr am dystiolaeth gyhoeddedig o roi hyfforddiant o fath GBCG. Roedden nhw’n cynnwys tystiolaeth a oedd ar gael hyd at fis Mehefin 2024. Roedd yr adolygiad terfynol yn cynnwys 11 o astudiaethau. 

Canlyniadau
Roedd yr 11 astudiaeth oll yn canolbwyntio ar sefydliadau gofal iechyd ac yn cynnwys gweithwyr proffesiynol gofal iechyd neu iechyd y cyhoedd. Roedd dwy astudiaeth hefyd yn cynnwys hyfforddeion awdurdodau lleol.

Roedd tystiolaeth bod hyfforddiant o fath GBCG yn cynyddu hyder y rhai sy'n cael eu hyfforddi, a bod y defnyddio technegau sy’n gysylltiedig â GBCG wedi cynyddu’n syth ar ôl yr hyfforddiant. Roedd y gwelliannau hyn yn dal i fod yn amlwg hyd at flwyddyn yn ddiweddarach. Byddai hyfforddiant gloywi hefyd yn cael ei werthfawrogi, ac er bod hyfforddiant wyneb yn wyneb yn well, gallai hyfforddiant ar-lein roi mwy o hyblygrwydd i staff gymryd rhan. 

Roedd rhwystrau i fynd i hyfforddiant GBCG a defnyddio GBCG yn cynnwys teimlo nad oedd digon o amser, a diffyg cefnogaeth reolaethol. Roedd rhwystrau i ddefnyddio GBCG hefyd yn cynnwys ofn cynhyrfu cleifion, a diffyg ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth i’r dyfodol i gyfeirio defnyddwyr y gwasanaeth atyn nhw ar ôl trafodaethau am ymddygiad iach.  Mae angen ymchwil bellach. Er enghraifft, hefyd doedd dim tystiolaeth ynglŷn ag a fyddai 

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR0032