Gwasanaethau bywyd ar ôl strôc
Cwestiwn Ymchwil: Cost-effeithiolrwydd gwasanaethau bywyd ar ôl strôc ac effaith y gwasanaethau hyn ar faint o adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol a ddefnyddir.
Mae dros 100,000 o achosion o strôc yn y DU bob blwyddyn, a disgwylir i hyn gynyddu i dros 2.1 miliwn erbyn 2035. Mae tua 70,000 o bobl sydd wedi goroesi strôc yn byw yng Nghymru. Mae gwasanaethau bywyd ar ôl strôc yn defnyddio dull cyfannol ac anfeddygol o helpu pobl i fyw'n dda ar ôl cael strôc, ac mae'n ategu camau adsefydlu. Mae gwasanaethau bywyd ar ôl strôc yn cynnwys gwasanaethau sy'n ceisio cynorthwyo cyflwr corfforol ac emosiynol pobl. Mae rhai o'r gwasanaethau hyn yn ymwneud yn benodol â chyfathrebu a rhoi chymorth emosiynol. Maent yn cynnig cyfarpar a gwybodaeth, tawelwch meddwl, hyfforddiant a chymorth gan eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg. Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd amlygu tystiolaeth am gost-effeithiolrwydd y gwasanaethau bywyd ar ôl strôc, ac effaith yr ymyriadau hyn ar faint o adnoddau iechyd neu ofal cymdeithasol a ddefnyddir.
0027