
Dr Micaela Gal
Arweinydd Paratoi Gwybodaeth ac Effaith
Micaela sy'n arwain ar baratoi gwybodaeth, effaith ac ymchwil drosiadol; gan sicrhau bod tystiolaeth ymchwil yn cael ei defnyddio y tu hwnt i'r byd academaidd. Mae hi wedi arwain yn y maes hwn ar gyfer i) Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, ii) 'Gwobr Ymchwil Drosiadol Sefydliadol' (masnacheiddio ac effaith ymchwil y Brifysgol) a iii) 'Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys' Cymru. Mae Micaela hefyd yn cefnogi hyfforddiant ymchwil, a cheisiadau ariannu ymchwil trosiadol.