Creu diogelwch sefydliadol sy'n seiliedig ar ddata ar y cyd â chleifion: datblygu adnodd pryderon diogelwch a adroddir gan gleifion mewn sawl lleoliad, a’i brofi’n wybyddol

Cefndir

Mae diogelwch cleifion yn agwedd hollbwysig ar ofal iechyd, gyda chleifion yn aml y cyntaf i sylwi ar bryderon diogelwch. Fodd bynnag, mae adnoddau adrodd traddodiadol yn gyfyngedig, a hwyrach na fydd llawer o gleifion yn adrodd am broblemau diogelwch oherwydd eu bod yn ofni’r canlyniadau neu yn meddwl nad oes digon o eglurder o ran y systemau presennol. Mae angen cynyddol am adnoddau sy'n galluogi cleifion i roi gwybod am bryderon diogelwch yn hawdd ac yn effeithiol. Nod yr astudiaeth hon oedd gwneud datblygiad rhagarweiniol a phrofion gwybyddol ar Adnodd Pryderon Diogelwch a Adroddir gan Gleifion, a gynlluniwyd i gofnodi ystod eang o broblemau diogelwch cleifion mewn amrywiol leoliadau gofal iechyd a allai wella ansawdd gofal a meithrin gwelliant diogelwch parhaus.

I ddarllen y cyhoeddiad, cliciwch yma.

Dyddiad:
Cyfeirnod:
PR0006