PVCOVID – Adolygiadau Cyhoeddus yn Ystod y Pandemig Coronafeirws
Mae’r prosiect hwn yn archwilio’r newidiadau mewn ymddygiadau iechyd COVID-19 dros amser. Mae hyn yn cynnwys gwneud profion, hunanynysu, gwisgo masgiau wyneb a chymysgu’n gymdeithasol. Mae hefyd yn edrych ar sut y mae’r cyhoedd yn ystyried symptomau fel annwyd, dolur gwddf a thwymyn, a allai fod yn gysylltiedig â COVID-19, a’r hyn y maen nhw’n ei wneud mewn ymateb i’r symptomau.
Â’r nod o archwilio p’un a yw’r profiad o’r cyfnod pontio allan o’r pandemig yn wahanol i bobl mewn grwpiau poblogaethau penodol a sut y mae’n wahanol, mae’r ymchwil hon yn canolbwyntio’n benodol ar y rheini mewn cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, y rheini yn y cymunedau mwyaf amddifad a’r henoed neu’r rheini sy’n glinigol agored i niwed.
Mae hyn yn barhad o brosiect PVCOVID sydd wedi bod yn cynnal grwpiau ffocws ac arolygon ers mis Mawrth 2020.
Pen Ymchwilwyr: Dr Kim Dienes a Dr Simon Williams
Sefydliad sy’n lletya: Prifysgol Abertawe
Dyddiad cychwyn: Mehefin 2022
Dyddiad y daw i ben: December 2023
Swm y cyllid: £54,125
Mae'r Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal yn gweithio ar yr adroddiad hwn ar hyn o bryd. Sylwer, gall teitl yr adroddiad hwn newid ar ôl iddo gael ei gwblhau.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: healthandcareevidence@cardiff.ac.uk
PR0001