Adolygiad cyflym o’r nodweddion a’r canlyniadau i blant sy'n rhan o achosion cyfraith breifat teuluoedd pan fo rhieni’n gwahanu

Cefndir / Nod yr Adolygiad Cyflym

Mae achosion cyfraith breifat sy’n cynnwys plant fel arfer yn cynnwys anghydfodau llys rhwng rhieni sydd wedi gwahanu ac yn anghytuno ynghylch trefniadau ar gyfer eu plant, ac yn gofyn i'r llys wneud gorchmynion sy'n penderfynu ble y dylai plentyn fyw a gyda phwy y dylai dreulio amser. Mae’r plant sy'n cael eu cynnwys mewn cyfraith breifat, ac a allai fod yn cynrychioli grŵp agored i niwed, yn aml yn cael llai o sylw mewn polisïau o gymharu â’r rhai mewn achosion cyfraith gyhoeddus.

Nod yr adolygiad hwn oedd tynnu sylw at les a nodweddion pwysig eraill y plant sy’n rhan o achosion cyfraith teuluoedd ar hyn o bryd, neu wedi bod yn rhan o achosion o’r fath, o ganlyniad i rieni’n gwahanu. Roedd hefyd am geisio amlygu’r canlyniadau er mwyn nodi pa gymorth sydd ei angen ar y plant hyn sy'n aml yn cael eu hanwybyddu mewn polisïau.

Adroddiad Llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR0034