Effeithiau pandemig COVID-19 ar bobl yn y carchar: adolygiad o'r dystiolaeth ymchwil

Cefndir

Roedd pobl oedd wedi eu carcharu h.y. yn byw mewn carchardai yn arbennig o debygol o fod wedi cael eu heffeithio gan bandemig COVID-19. Efallai bod grŵp hwn o bobl yn profi anghydraddoldebau eisoes o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol. Er enghraifft, efallai bod ganddynt gefndir teuluol anodd, wedi profi digartrefedd, addysg gyfyngedig, diffyg mynediad at ofal iechyd, ac yn profi amrywiaeth o faterion iechyd (e.e. salwch corfforol a meddyliol). 

Roedd byw mewn carchardai yn golygu eu bod nhw hefyd yn fwy agored i glefydau heintus fel y feirws sy'n achosi COVID (SARS-CoV-2). Mae hyn oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys byw mewn mannau cyfyng, gorlawn, heriau gyda chadw pellter cymdeithasol a llai o fynediad at gyfarpar diogelu personol. Arweiniodd ymyriadau'r pandemig hefyd at bethau fel ynysu’n hir mewn celloedd, atal ymweliadau teuluol a chanslo cyrsiau addysgol, sy'n cyfrannu at ddirywiad mewn iechyd meddwl.  

Er ei bod yn debygol y bydd anghydraddoldebau o ran iechyd o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol, nid oedd yr ystod o effeithiau ar yr anghydraddoldebau a oedd yn bodoli eisoes a allai’r bobl hyn fod yn eu profi, o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol, yn hysbys.

Amcan yr ymchwil

Asesu effaith pandemig COVID-19 ar bobl sydd wedi cael eu carcharu (PEI), gan ganolbwyntio'n benodol ar ganlyniadau clinigol o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol.

Dyluniad

Cynnal adolygiad systematig o ymchwil gyhoeddedig.  Y boblogaeth a gafodd ei chynnwys oedd oedolion a oedd wedi cael eu carcharu, 18 mlwydd oed a hŷn, ledled y byd, yn ystod pandemig COVID-19.

Canlyniadau

Roedd 55 astudiaeth yn bodloni'r meini prawf cynhwysiant, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn dod o'r UDA. O'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol, canfuwyd bod gan PEI gyfraddau uwch o haint SARS-CoV-2 a chanlyniadau clinigol (iechyd) gwaeth. Cafodd data sy'n gwrthdaro ei ganfod ynghylch y nifer sy'n derbyn brechlyn a chyfraddau profi COVID o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol. Dirywiodd iechyd meddwl y bobl hyn hefyd yn ystod y pandemig. Cafodd is-grwpiau, fel lleiafrifoedd ethnig a PEI hŷn, eu heffeithio'n waeth. 

Casgliad

Mae PEI yn profi canlyniadau clinigol COVID-19 gwaeth na'r cyhoedd. Mae angen ymchwil pellach o ansawdd uchel i asesu effeithiau parhaus y pandemig ar PEI. Dylai blaenoriaethu adnoddau ar gyfer y grŵp bregus hwn fod yn ffocws polisi cenedlaethol pe bai pandemig arall yn y dyfodol.

BMJ Open 

Dyddiad:
Cyfeirnod:
N/A