Blwyddyn o Dystiolaeth 2023/24 - Iechyd y Cyhoedd
6 Medi
Mae llawer o'n hymchwil yng Nghanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cysylltu'n agos â thema iechyd y cyhoedd. Gydag arbenigedd ein partneriaid cydweithredol rydym wedi cynnal ystod o adolygiadau tystiolaeth iechyd y cyhoedd ym mlwyddyn gyntaf ein Canolfan Dystiolaeth.
Fel yn achos ein holl astudiaethau, mae cynrychiolwyr o'r meysydd iechyd cyhoeddus perthnasol ac aelodau o'n grŵp partneriaeth gyhoeddus yn ymwneud â datblygiad yr ymchwil o'r dechrau i'r diwedd, er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn berthnasol i bobl Cymru.
Mae ein holl adroddiadau ymchwil ar gael i'r cyhoedd ar-lein. Mae'r adroddiadau'n cynnwys Crynodeb Gweithredol 2 dudalen — (gweler tudalennau 4 a 5 o'r adroddiad llawn pdf ar gyfer hyn!) Cliciwch y dolenni canlynol i gael gwybodaeth am bob astudiaeth, gan gynnwys crynodebau lleyg defnyddiol a ffeithluniau.
Mae ein hadolygiadau tystiolaeth yn cynnwys:
Adolygiad o risgiau iechyd corfforol triniaethau stryd fawr sy'n tyllu'r croen (y cyfeirir atynt fel arall fel 'triniaethau arbennig'), gan gynnwys tyllu corff tatŵio, aciwbigo ac electrolysis. Cynhaliwyd hyn er mwyn helpu i lywio'r cynllun trwyddedu gorfodol sydd ar ddod ar gyfer triniaethau arbennig, sy'n cael ei gyflwyno yng Nghymru fis Hydref eleni.
Partner sy'n Cydweithio: Cydweithrediad Synthesis Tystiolaeth Caerdydd
Cwestiwn ymchwil: Adolygiad cyflym o risgiau iechyd corfforol sy'n gysylltiedig â thriniaethau arbennig (tatŵio, tyllu corff, aciwbigo, electrolysis).
Mae mwy a mwy o bobl yn y DU yn cael tatŵs (gan gynnwys colur lled-barhaol), tyllu, aciwbigo ac electrolysis. Fe'u gelwir yn 'driniaethau arbennig' o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, a gallant fod yn gysylltiedig â rhai risgiau iechyd. Gall llid a haint ddigwydd wrth i nodwyddau a chynhyrchion eraill gael eu mewnosod yn y croen. Mewn achosion prin, gall y triniaethau achosi afiechydon difrifol a hirdymor.
Mae'r Ddeddf yn nodi darpariaethau ar gyfer cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer yr unigolion a'r busnesau hynny sy'n darparu'r triniaethau hyn yng Nghymru. Bydd y cynllun trwyddedu, pan gaiff ei gyflwyno yn 2024, yn sicrhau bod pob deiliad trwydded a busnes cymeradwy yn gweithredu i safon ddiogel a chyson.
Ein nod oedd casglu tystiolaeth gyhoeddedig bresennol ar y prif risgiau iechyd corfforol sy'n gysylltiedig â thriniaethau arbennig. Mae'r adolygiad hwn yn diweddaru'r dystiolaeth flaenorol a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i hysbysu a chymeradwyo gweithrediad y cynllun trwyddedu newydd.
Rhagweld cyffredinolrwydd posibl cyflyrau hirdymor sy'n debygol o effeithio ar y GIG yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf. Fe wnaeth yr astudiaeth hon helpu i lywio 'Adroddiad y GIG mewn 10+ mlynedd' gan y Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Iechyd a fydd ei hun yn cael ei ddefnyddio i lywio’r gwaith o adnewyddu camau gweithredu yn Cymru Iachach (cynllun hirdymor Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol), yn ogystal â llunio a llywio meddwl yn y dyfodol ar gynllunio'r GIG.
Partner sy'n Cydweithio: Cydweithrediad Synthesis Tystiolaeth Caerdydd
Cwestiwn ymchwil: Beth yw'r cyffredinolrwydd a nifer yr achosion a ragwelir o gyflyrau hirdymor yng Nghymru.
Mae'n dod yn amlwg y bydd y GIG yn wynebu llawer o faterion mewn blynyddoedd i ddod oherwydd twf y boblogaeth sy'n heneiddio mewn perthynas â'r boblogaeth o oedran gweithio ochr yn ochr â'r cynnydd mewn cydafiechedd ac anghydraddoldebau iechyd parhaus, yn enwedig ar gyfer salwch y gellir ei atal. Mae gan hyn oblygiadau i sut mae gofal iechyd a systemau iechyd yn cael eu darparu, a sut y bydd angen i'r GIG addasu i ateb y galw cynyddol mae hyn yn ei roi ar wasanaethau gofal iechyd.
Mae'r map cyflym hwn o dystiolaeth yn adrodd data cyffredinolrwydd a nifer yr achosion a ragwelir ar draws ystod o gyflyrau hirdymor yng Nghymru i gefnogi cynllunio ynghylch y ffordd orau o drefnu ac ariannu gofal ar gyfer y boblogaeth gynyddol gyda chyflyrau hirdymor dros y 10 mlynedd nesaf. Mae'r canfyddiadau yn ôl cyflyrau yn cynnwys: ffibriliad atrïaidd, canser, clefydau cardiofasgwlaidd, clefyd fasgwlaidd ymylol, strôc, dementia, diabetes, methiant y galon, pwysedd gwaed uchel, salwch meddwl, a chydafiachedd. Cafodd tri ffactor risg ar gyfer cyflyrau hirdymor eu cynnwys hefyd, h.y. diet/maeth gwael, gordewdra, ac ysmygu.
Adolygiad o effeithiolrwydd ymyriadau i gefnogi pobl ag iselder a/neu bryder i roi'r gorau i ysmygu. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod gan bobl â chyflyrau iechyd meddwl gyfradd uwch o ysmygu ac maen nhw’n llai tebygol o fanteisio ar wasanaethau a allai eu helpu i roi'r gorau iddi. Bydd hyn yn helpu i lywio Cynllun Cyflawni Rheoli Tybaco Llywodraeth Cymru wedi'i ddiweddaru.
Partner sy'n cydweithio: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cwestiwn ymchwil: A rapid review of the effectiveness of smoking cessation interventions for people with anxiety and/or depression living within the community.
Nod Llywodraeth Cymru yw lleihau nifer yr achosion o ysmygu o'r gyfradd bresennol o 13% i is na 5% o'r boblogaeth erbyn 2030. Mae gan bobl â chyflyrau iechyd meddwl gyfradd uwch o fynychder ysmygu ac maen nhw’n llai tebygol o fanteisio ar wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu. Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi'r gorau i ysmygu yn y boblogaeth hon yn lleihau symptomau, yn gwella hwyliau cadarnhaol ac ansawdd bywyd. Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd nodi a syntheseiddio'r dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd ymyriadau rhoi'r gorau i ysmygu mewn pobl â phryder a/neu iselder sy'n byw yn y gymuned. Awgrymwyd y cwestiwn ymchwil gan Gwella Iechyd Llywodraeth Cymru.
Adolygiad o fanteision economaidd sicrhau bod iechyd corfforol ac emosiynol y gweithlu yn dda. Mae'r astudiaeth hon yn dilyn adroddiad blaenorol ynghylch y dadleuon economaidd dros fuddsoddi yn iechyd a lles y gweithlu yng Nghymru. Mae hyn wedi bod o ddiddordeb arbennig i Lywodraeth Cymru yng ngoleuni eu cynllun 'Cymru Gryfach, decach a gwyrddach' ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau.
Partner sy'n Cydweithio: Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor
Cwestiwn ymchwil: Llesiant mewn gwaith - cefnogi pobl mewn gwaith ac i ddychwelyd i'r gweithlu: Adolygiad o dystiolaeth economaidd
Yng Nghymru, mae 1.48 miliwn o bobl mewn cyflogaeth ar hyn o bryd a 58,300 o bobl sy'n ddi-waith. Mae hyn yn cyfateb i gyfradd ddiweithdra o 3.8% yng Nghymru.
Mae'r Adolygiad Cyflym hwn yn dilyn adroddiad blaenorol Llesiant mewn Gwaith (Edwards et al., 2019) a'i nod yw archwilio manteision economaidd cadw'r gweithlu mewn iechyd corfforol ac emosiynol da. Yna bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i drafod y math o ymyriadau a allai fod y mwyaf cost-effeithiol o ran gwella lles yn y gwaith. Mae hyn yn bwysig gan fod lles corfforol ac emosiynol y gweithlu yn cael effaith ar gynhyrchiant gwaith a'r gallu i ffynnu mewn gwaith.