Adolygiad carlam ar effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd ymyriadau i leihau niwed i blant a phobl ifanc sydd wedi bod yn agored i drais neu gam-drin domestig (DVA)
Adolygiad carlam ar effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd ymyriadau i leihau niwed i blant a phobl ifanc sydd wedi bod yn agored i drais neu gam-drin domestig (DVA).
Cefndir a chyd-destun.Gall plant a phobl ifanc sy'n dyst i drais a cham-drin domestig gael eu heffeithio'n negyddol o ran eu datblygiad seicolegol, emosiynol a chymdeithasol. Rydym ni’n gwybod bod digwyddiadau andwyol yn ystod plentyndod yn niweidiol i ddatblygiad pobl ifanc, yn dylanwadu ar eu bywyd, a bywyd cenedlaethau'r dyfodol (eu plant). Felly, mae'n fater iechyd cyhoeddus sylweddol.
Nod.Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd dod o hyd i'r dystiolaeth ar ymyriadau effeithiol (ac unrhyw dystiolaeth berthnasol o ran cost-effeithiolrwydd) sy'n canolbwyntio ar leihau'r niwed i blant a phobl ifanc sydd wedi bod yn agored i DVA.
Strategaeth. Archwiliodd yr Adolygiad carlam hwn 26 o astudiaethau. Roedd 20 yn dreialon rheoledig o ymyriadau a 6 yn werthusiadau economaidd. Roedd yr ymyriadau'n cynnwys seico-addysg, therapi ymddygiad gwybyddol (CBT), eiriolaeth, therapi sgiliau rhieni a therapi chwarae.
Canlyniadau.Nododd y rhan fwyaf o astudiaethau effeithiolrwydd yr ystod eang o ymyriadau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi bod yn dyst i DV.
- Mae ymyriad seico-addysgol a roddir i riant a phlentyn ar yr un pryd yn debygol o fod yn gost effeithiol.
- 2 Fe wnaeth 2 astudiaeth ganfod bod cyfranogwyr therapi CBT wedi gwella canlyniadau sylweddol o gymharu â'r grwpiau rheoli.
- Roedd y rhan fwyaf o astudiaethau'n edrych ar ganlyniadau tymor byr ac roedd ganddynt feintiau sampl bach. Ni wnaethant ddod o hyd i unrhyw wahaniaethau rhwng y grwpiau ymyrraeth a rheoli yn dilyn ymyriad i leihau effeithiau negyddol tymor byr a thymor hir o fod yn dyst i DVA.
- Awgrymodd dadansoddiad cost-effeithiolrwydd y gallai ymyrraeth seico-addysgol sy’n cael ei gyflwyno i'r rhiant a'r plentyn fod yr un mor gost-effeithiol â darparu seico-addysg i'r plentyn yn unig. Ni chafodd yr union gostau ar gyfer ymyriadau eu cynnwys felly mae rhywfaint o ansicrwydd o hyd.
Crynodeb:
Mae yna ychydig o dystiolaeth gan yr RR hwn i gefnogi argymhellion polisi. Er mwyn gwella'r sylfaen dystiolaeth, mae angen hap-dreialon rheoledig mwy, wedi'u cynnal yn dda, gyda chyfnodau dilynol hirach gan gynnwys gwerthusiad economaidd.
Ysgrifennwyd y crynodeb lleyg hwn gan Sally Anstey.
RR0003