Beth yw effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd gwasanaethau ailalluogi yn y cartref â chyfyngiad amser ar gyfer gwella annibyniaeth a chanlyniadau iechyd unigolyn, a lleihau'r angen am ofal hirdymor: adolygiad cyflym

Mae gwasanaethau ailalluogi yn helpu pobl i gynnal neu ailgydio yn eu hannibyniaeth a'u hyder, gan y gall hyn osgoi’r angen o fynd i ofal neu ysbyty yn dilyn cyfnod o salwch neu driniaeth. Mae awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau ailalluogi i helpu unigolion sydd mewn perygl o ddod yn eiddil gael gwella ansawdd eu bywydau. Er hynny, mae cyfyngiadau ariannol ym maes gofal cymdeithasol wedi lleihau faint o gyllid sydd ar gael i wasanaethau ailalluogi.

Nod yr adolygiad hwn oedd nodi unrhyw dystiolaeth gyhoeddedig ar effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd gwasanaethau ailalluogi yn y cartref, â chyfyngiad amser ar gyfer gwella annibyniaeth a chanlyniadau iechyd pobl, a lleihau'r ddibyniaeth ar ofal hirdymor. Bydd yr wybodaeth hon yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall pa wasanaethau ailalluogi sydd ar gael yng Nghymru.

Cynhaliwyd adolygiad cyflym o ymchwil gyhoeddedig i nodi unrhyw dystiolaeth ar ymyriadau ailalluogi a fyddai’n gallu bod yn ddefnyddiol ac yn gost effeithiol i wella neu gynnal annibyniaeth unigolyn a'u hatal rhag gorfod mynd i ofal neu i’r ysbyty.  Cynhaliwyd adolygiad o dystiolaeth berthnasol a gyhoeddwyd hyd at fis Rhagfyr 2024, a nodwyd 18 astudiaeth i'w dadansoddi ymhellach.

Dangosodd ymchwil gyhoeddedig bod cryn dipyn o dystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd ymyriadau ailalluogi i wella gallu pobl i fyw yn annibynnol ac ansawdd eu bywyd. Mae’n bosibl i ymyriadau ailalluogi wella canlyniadau ar ôl syrthio, lleihau’r perygl o farw, a gwella hyder pobl i ymdopi â straen a heriau (synnwyr cysondeb). Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod ailalluogi wedi bod yn effeithiol wrth wella gallu pobl i wneud gweithgareddau bob dydd ac i symud yn amlach.

Cafwyd cryn dipyn o dystiolaeth hefyd ar effeithiolrwydd ymyriadau ailalluogi ar wasanaethau. Mae gwasanaethau ailalluogi yn lleihau’r angen am wasanaethau gofal hirdymor yn y cartref ac maen nhw’n effeithiol wrth leihau’r niferoedd sy’n cael eu derbyn i ofal preswyl. Er hynny, roedd rhai o’r canfyddiadau’n anghyson ynghylch effeithiolrwydd gwasanaethau ailalluogi.

O ran cost-effeithiolrwydd gwasanaethau ailalluogi, roedd y dystiolaeth yn dangos bod gwasanaethau ailalluogi yn gost-effeithiol o’u cymharu â gofal safonol yn y cartref. Er hynny, cafwyd ansicrwydd o ran y dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd, sy'n cyfyngu ar y canfyddiadau hyn.

Yn gryno, mae’n ymddangos bod tystiolaeth i ddangos bod ymyriadau ailalluogi yn effeithiol i wella annibyniaeth unigolion i symud yn amlach a gwneud gweithgareddau bob dydd. Mae ailalluogi’n gallu bod yn gost-effeithiol hefyd. Roedd yr adolygiad wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen rhagor o ymchwil o safon yn y maes hwn. 

Awdur: Rashmi Kumar

Adroddiad llawn 

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR0036