Briffio Tystiolaeth - Allgáu Digidol
Mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o'ch gwahodd i sesiwn Briffio Tystiolaeth ar-lein ar gyfer yr adroddiad canlynol:
Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer mynd i'r afael ag allgáu digidol mewn oedolion hŷn
Cefndir
Oedolion hŷn yw'r gyfran fwyaf o bobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd. Gyda digideiddio cynyddol gwasanaethau, yn enwedig y rhai a ddarperir gan Gofal Cymdeithasol Cymru, mae'n bwysig deall y ffordd orau o gefnogi oedolion hŷn i oresgyn yr heriau maen nhw’n eu hwynebu wrth gyrchu neu ymgysylltu â'r byd digidol (at ddefnydd personol). Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd asesu effeithiolrwydd ymyriadau i fynd i'r afael ag allgáu digidol mewn oedolion hŷn (60 oed a hŷn).
Mae dolen i'r adroddiad llawn ar gael yma:
https://www.medrxiv.org/content/10.1101/2024.03.21.24304670v1
Strwythur y sesiwn
1300 – 1305 Cyflwyniad a sylwadau agoriadol
1305 – 1315 Cyflwyniad ar ganfyddiadau’r astudiaeth
1315 – 1330 Sylwadau'r panel
1330 – 1355 Cwestiynau a thrafodaeth
1355 Cau
Aelodau'r panel
Alison Cooper (Cadeirydd) | Cyfarwyddwr Cyswllt | Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Alesha Wale (Cyflwynydd), Jordan Everitt, Toby Ayres | Uwch Ddadansoddwyr Tystiolaeth a Gwybodaeth | Iechyd Cyhoeddus Cymru
Aimee Twinberrow | Arweinydd Arloesi Digidol | Gofal Cymdeithasol Cymru
Mel McAulay | Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus | Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Joanna Dundon | Arweinydd Digidol Cenedlaethol | Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Cadi Cliff | Rheolwr Prosiect Cynhwysiant Digidol | Cymunedau Digidol Cymru
I gael eich ychwanegu at y gwahoddiad calendr swyddogol, e-bostiwch HealthandCareEvidence@cardiff.ac.uk