Sky image

Digwyddiad Lansio Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Tystiolaeth drylwyr, gyflym a pherthnasol i ddarparu sail ar gyfer gwneud penderfyniadau iechyd a gofal yng Nghymru

Mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru newydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cael ei sefydlu i ddarparu tystiolaeth ymchwil hanfodol i Weinidogion a llunwyr penderfyniadau eraill i fynd i’r afael â’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n wynebu Cymru.

Gyda ffocws ar fynd i’r afael ag ystod eang o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol, bydd y Ganolfan newydd, a fydd yn agor ym mis Ebrill 2023, yn helpu i sicrhau bod polisïau a gwasanaethau yng Nghymru yn tynnu ar ganfyddiadau’r ymchwil mwyaf diweddar a thrylwyr.

Cofrestrwch rŵan.

Rhaglen

12:30 - Croeso

Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

12:35 – Anerchiad Agoriadol

Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

12:45 – Adeiladu ar Lwyddiant Blaenorol – Dysgu o Brofiad Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru

Dr Natalie Joseph-Williams, Cyfarwyddwr Cyswllt, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

12:55 – Lansio Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru newydd

Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

13:05 – Cydweithio â Rhanddeiliaid – Sesiwn grŵp

Dr Alison Cooper, Cyfarwyddwr Cyswllt, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

13:35 – Egwyl

13:45 – Cyfarfod â’n Timau Ymchwil

Cadeirydd – Dr Ruth Lewis, Cyfarwyddwr Cyswllt, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

13:55 – Cyfarfod â’n Partneriaid Cyhoeddus

Dr Denitza Williams, Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd ar y Cyd, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

14:05 – Cydweithio â Rhanddeiliaid – Sesiwn adborth

Dr Alison Cooper, Cyfarwyddwr Cyswllt, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

14:15 – Trafodaeth Panel a Chwestiynau

Cadeirydd – Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

14.25 – Diweddglo a’r camau nesaf

Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

-

Ar Lein (Rhydd am ddim)