Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer mynd i'r afael ag allgáu digidol mewn oedolion hŷn

Cefndir a Chyd-destun

Oedolion hŷn yw'r grŵp mwyaf o bobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd ond mae mwy a mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd ar-lein. Mae'n bwysig deall sut i gefnogi oedolion hŷn fel y gallant wneud y gorau o'r byd digidol.

Gallai allgáu digidol fod oherwydd nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd, neu nad ydynt yn gwybod sut i gysylltu neu’n methu fforddio'r rhyngrwyd.

Nodau

Roedd yr adolygiad hwn eisiau gweld pa mor effeithiol mae camau cyfredol wedi bod wrth gefnogi oedolion hŷn i gael mynediad i'r rhyngrwyd ar gyfer eu hanghenion gofal.

Dulliau

Edrychodd yr ymchwil ar lawer o wahanol astudiaethau o bob cwr o'r byd. Roedd yr holl astudiaethau'n darparu rhywfaint o hyfforddiant i oedolion hŷn i'w helpu i wella eu sgiliau digidol.  Edrychodd rhai o'r astudiaethau ar bobl iau yn helpu oedolion hŷn, roedd rhai yn defnyddio meddalwedd arbennig a rhai hyd yn oed yn defnyddio gêm.

Ar ôl cymryd rhan yn yr astudiaethau hyn, dechreuodd rhai oedolion hŷn ddefnyddio'r rhyngrwyd, neu wella, gan ddefnyddio'r rhyngrwyd. Daeth eraill yn fwy hyderus hefyd wrth fynd ar-lein.

Canlyniadau

Cynhyrchwyd ystod o dystiolaeth o'r astudiaethau y gwnaethom ni edrych arnynt.  Yn fras, roedd hi’n ymddangos fel pe bai'n dangos bod yr oedolion hŷn a gymerodd ran yn yr astudiaethau o blaid eu hymglymiad. 

O edrych yn fanwl ar ganlyniadau'r astudiaethau, nid oedd llawer o dystiolaeth i awgrymu bod y gefnogaeth a roddwyd i oedolion hŷn sy'n defnyddio gweithgareddau traddodiadol wedi arwain at gynnydd yn eu defnydd o dechnoleg ar-lein.

Roedd tystiolaeth wan i ddangos bod gweithgareddau gan ddefnyddio gemau, cefnogaeth gan bobl iau a meddalwedd arbennig wedi gwella gallu digidol, hyder neu dderbyn technoleg. Roedd y dystiolaeth o gost-effeithiolrwydd hefyd yn ansicr iawn.  

Roedd ansawdd isel i'r rhan fwyaf o'r astudiaethau oedd wedi’u cynnwys yn yr adolygiad, a gan na chynhaliwyd rhai ohonynt yn y DU, efallai na fyddant yn berthnasol i ni. Roedd astudiaethau cyfyngedig a oedd yn ystyried cost-effeithiolrwydd.  Nid oedd unrhyw astudiaethau yn edrych ar rwystrau iaith na mynediad at y rhyngrwyd a fforddiadwyedd y rhyngrwyd.

Byddai ymchwil pellach yn y DU o fudd i ddeall effeithiolrwydd, gan gynnwys cost, ymyriadau i wella allgáu digidol mewn oedolion hŷn.

Goblygiadau Polisi ac Ymarfer

Dangosodd yr adolygiad cyflym hwn rai buddion posibl addysg o ran gwella 'llythrennedd' digidol a derbyn technoleg gan oedolion hŷn. Fodd bynnag, er mwyn lleihau allgáu digidol mewn oedolion hŷn, gall fod yn bwysig cael gwared ar rwystrau fel mynediad i'r rhyngrwyd a fforddiadwyedd dyfeisiau.

Gall addysg helpu i leihau diffyg hyder a phryder ynghylch gallu pobl hŷn i ddefnyddio technolegau digidol.

Mae'n bwysig ystyried y dylai oedolion hŷn gael y dewis i ryngweithio â gwasanaethau hanfodol yn gorfforol (all-lein) neu'n ddigidol. Gyda digideiddio cynyddol gwasanaethau, mae'n bwysig nad yw aelodau hŷn o'r gymuned nad ydynt am ddefnyddio technolegau digidol, yn cael eu gadael ar ôl.

Awdur: Mel McAulay

 

 

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR0023