Adolygiad cyflym o ymyriadau i leihau’r niferoedd sy’n meddwl am hunanladdiad, ymdrechion i gyflawni hunanladdiad, a marwolaethau mewn lleoliadau cyhoeddus
Cefndir a Chyd-destun
Rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, tybir y bu farw 356 o drigolion Cymru drwy hunanladdiad. Digwyddodd rhai o'r marwolaethau drwy hunanladdiad mewn mannau cyhoeddus, megis coedwigoedd, gorsafoedd rheilffordd, pontydd neu glogwyni. Mae marwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad yn ddigwyddiadau trasig. Nid yn unig y gall y marwolaethau sy’n digwydd mewn mannau cyhoeddus effeithio ar deulu a ffrindiau’r unigolyn sydd wedi marw, ond gallant hefyd effeithio hefyd ar dystion, ar aelodau o’r cyhoedd sy’n dod o hyd i’r corff a’r gymuned ehangach.
Weithiau, cyfeirir at leoliadau cyhoeddus lle mae llawer o hunanladdiadau yn digwydd yn “leoliadau sy’n peri pryder” neu’n “leoliadau a ddefnyddir yn aml”.
Nodau
Nod yr adolygiad oedd dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd ymyriadau gwahanol a all atal pobl rhag ystyried neu ceisio hunanladdiad, neu farw drwy hunanladdiad mewn lleoliadau cyhoeddus.
Nid oedd yr adolygiad yn cynnwys cyfyngiadau ffisegol yn unig, megis rhwystrau, ffensio, neu rwydi, oherwydd bod toreth o dystiolaeth ar gael yn eu cylch eisoes.
Dulliau
Cynhaliwyd adolygiad o’r lenyddiaeth a gyhoeddwyd ers 2014. Cafodd pob math o astudiaethau a gynhaliwyd mewn unrhyw wlad eu cynnwys yn yr adolygiad.
Chwiliwyd gwefannau llywodraeth y DU, elusennau a sefydliadau perthnasol eraill hefyd i ddod o hyd i adroddiadau neu wybodaeth berthnasol arall.
Canlyniadau
Defnyddiwyd 24 o astudiaethau yn yr adolygiad.
Canfu'r adolygiad mai technolegau gwyliadwriaeth, fyddai’n gallu rhoi cyfle i drydydd parti ymyrryd, oedd fwyaf addewidiol. Fodd bynnag, ychydig o hyder y ceir yn y dystiolaeth am eu heffeithiolrwydd oherwydd yr anghytuno y ceir rhwng yr astudiaethau ac oherwydd y ffordd y’u cynhaliwyd.
Archwiliodd saith astudiaeth i effeithiolrwydd hyrwyddo “llinellau cymorth hunanladdiad” i annog pobl i geisio cymorth. Roedd y canlyniadau'n amhendant, ac mae gofyn am fwy o ymchwil i ddeall a yw'r math hwn o ymyriad yn effeithiol.
Canfu’r adolygiad amrywiaeth o ymyriadau eraill, megis hyfforddi staff am hunanladdiad, anfon staff arbenigol i leoliadau sy’n peri pryder, ymgyrchoedd sy’n annog tystion i helpu person sy’n ymddangos eu bod mewn helbul, caffis argyfwng, goleuadau glas mewn gorsafoedd rheilffordd, cofebion, rholwyr sy’n troelli ar ffensys sy’n atal unigolion rhag gafael ynddynt, ac ymyriadau eraill. Nid oedd modd pennu effeithiolrwydd yr ymyriadau hyn yn bendant ond roedd rhai ohonynt yn addawol yn ôl pob golwg, felly mae gofyn ymchwilio ymhellach iddynt.
Goblygiadau o ran Polisïau ac Arferion
Prif ganfyddiad yr adolygiad yw bod gofyn cael gwerthusiadau mwy trylwyr cyn bod modd argymell rhoi unrhyw un o'r ymyriadau a adolygir ar waith.
Mae angen ymchwil o ansawdd uchel yn y dyfodol i nodi pa ymyriadau sy'n gweithio i bwy ac ym mha fath o leoliad sy'n peri pryder.
Mae angen gwell cymorth wrth gasglu a rhannu tystiolaeth ar effeithiolrwydd ymyriadau mewn lleoliadau sy’n peri pryder, gan gymryd sensitifrwydd y pwnc i ystyriaeth.
Awdur: Nathan Davies
RR0044