Costau a chost-effeithiolrwydd gwahanol fodelau gwasanaeth gofal lliniarol, gan ganolbwyntio ar ofal diwedd oes: Adolygiad cyflym

Cefndir

Mae rhai pobl yn derbyn gofal lliniarol neu ofal diwedd oes gartref, eraill mewn ysbytai neu hosbisau, neu gyfuniad o fodelau cartref a hosbis/cartref ac ysbyty.

Nod

Nod yr adolygiad hwn yw pennu costau a chost-effeithiolrwydd gwahanol fodelau gwasanaeth gofal lliniarol neu ofal diwedd oes.

Sylfaen Dystiolaeth

Adolygwyd astudiaethau a gyhoeddwyd rhwng 2003 a 2023. Cynhaliwyd chwiliadau cronfa ddata ym mis Hydref 2023. Nodwyd 48 o astudiaethau sylfaenol (roedd 39 yn ddadansoddiadau cost, 1 yn Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddi (SROI), 5 yn werthusiadau economaidd llawn a 3 yn astudiaethau modelu Markov)

Cynhelir yr astudiaethau hyn yn bennaf o safbwynt y system gofal iechyd, gan ddiystyru costau sy'n gysylltiedig â baich economaidd cleifion/gofalwyr. (Perea-Bello et al., 2023).

Canfyddiadau Allweddol

Mae'r ffordd mae costau gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn cael eu cyfrifo a'u cyflwyno yn amrywio. Nododd un astudiaeth y gost fesul diwrnod ar gyfer gofal hosbis yn £151 – £237 (Mitchell et al., 2020). Roedd astudiaethau eraill yn nodi cyfanswm cymedrig fesul arhosiad hosbis (o hyd amrywiol) ar £2,483 yn y flwyddyn gost 2023. (Huskamp et al., 2008) Oherwydd y hyd amrywiol aros ac anghenion gofal iechyd amrywiol, ni ellir cymharu'r costau gofal lliniarol hyn.

Mae costau gofal diwedd oes ysbytai yn tueddu i fod yn uwch na gofal diwedd oes hosbis, a gofal lliniarol yn y cartref yw'r model lleiaf costus mewn llawer o astudiaethau.

Fe wnaeth rhan fwyaf o astudiaethau gofal lliniarol yn yr ysbyty ganfod bod costau wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod 30 diwrnod olaf bywyd. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o dystiolaeth bod ymgynghoriadau lliniarol cyn marwolaeth yn arwain at benderfyniadau i roi’r gorau i rai triniaethau costus ac o ganlyniad yn lleihau costau. Gwelwyd bod cynllunio gofal uwch yn fwy costus ond yn fwy effeithiol wrth hwyluso cadw at ddewisiadau cleifion ar gyfer gofal diwedd oes.

Goblygiadau

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y dylai gofal lliniarol yn y cartref fod ar gael i bob claf ar gyfer y cyfnod diwedd oes os yw'n well ganddynt aros a marw gartref.
Dylai cynllunwyr gofal iechyd anelu at leihau derbyn i'r ysbyty ar ddiwedd oes ond dim ond os yw mynediad at ofal cartref o ansawdd dewis cleifion ar ddiwedd oes wedi'i warantu.
Dylai cleifion gael dewis ynghylch ble mae'n well ganddyn nhw farw heb symud y costau o'r system gofal iechyd i deuluoedd a'r gofalwyr yn y cartref, gan wneud y costau hyn yn anweledig.

Awduron: Elizabeth Doe / Rashmi Kumar

 

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR0020