Pa ddulliau sydd wedi'u defnyddio i roi taliadau uniongyrchol ar waith yn y systemau iechyd, a sut mae ffactorau amrywiol yn dylanwadu ar effeithiolrwydd y dulliau hyn wrth gefnogi personoli, llywodraethu a mynediad teg at ofal: Crynodeb Cyflym o Dystiola
Cefndir a Chyd-destun
Yng Nghymru, nid oes gan bobl ag anghenion iechyd cymhleth sy'n gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP) yr opsiwn o dderbyn taliadau uniongyrchol i reoli eu gofal ar hyn o bryd. Mae hyn yn wahanol iawn i ofal cymdeithasol gan fod taliadau uniongyrchol wedi cael eu defnyddio ers tro byd i roi mwy o ddewis a rheolaeth i bobl. Bydd deddf newydd a basiwyd yn 2025 yn newid hyn i ganiatáu taliadau uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus o 2026. Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar sut mae taliadau uniongyrchol wedi cael eu cyflwyno mewn systemau gofal iechyd eraill (yn enwedig yn Lloegr) a pha wersi y gellir eu dysgu i helpu Cymru i'w cyflwyno'n llwyddiannus.
Amcanion
Nod yr adolygiad astudiaeth hwn oedd deall:
- Sut mae taliadau uniongyrchol wedi cael eu cyflwyno mewn systemau gofal iechyd
- Beth sy'n helpu neu'n rhwystro eu llwyddiant
- Sut maen nhw'n helpu i roi pwyslais ar yr unigolyn, llywodraethu da, a rhoi mynediad teg at ofal i bawb
Strategaeth/Dull
Edrychodd yr ymchwilwyr ar 8 astudiaeth academaidd a 16 adroddiad gan sefydliadau, a chafodd pob un ei gyhoeddi rhwng 2010 a 2023. Roedd y rhain yn cynnwys tystiolaeth o Loegr a gwledydd incwm uchel eraill. Roedd y pwyslais ar oedolion ag anghenion iechyd parhaus neu gymhleth. Nid oedd yr adolygiad yn cynnwys tystiolaeth a oedd yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol neu fodelau ariannu anuniongyrchol yn unig.
Canfyddiadau/Deilliannau
- Gall taliadau uniongyrchol gynnig mwy o ryddid, dewis a hyblygrwydd i bobl o ran sut mae eu gofal yn cael ei drefnu
- Maen nhw’n aml yn gysylltiedig â gwell ansawdd bywyd/lles, mwy o annibyniaeth, ac ymdeimlad cryfach o urddas
- Mae eu llwyddiant yn dibynnu ar systemau cymorth da, gwybodaeth glir, a staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol.
- Mae’r heriau'n cynnwys prosesau cymhleth, mynediad anghyson, a phryderon ynghylch diogelwch neu gamddefnyddio arian
- Y rhai sydd â rhwydweithiau cymorth cryf sy’n tueddu i fod fwy ar eu hennill, sy'n codi cwestiynau ynghylch tegwch a mynediad cyfartal
Yr effaith – Ydy hyn yn bwysig?
Mae'r adolygiad hwn yn amlygu y gall taliadau uniongyrchol weithio'n dda ym maes gofal iechyd, ar yr amod eu bod yn cael eu cyflwyno'n ofalus. Os ydyn nhw’n seiliedig ar systemau cymorth da, maen nhw’n gwella bywydau pobl drwy gynnig mwy o ddewis a rheolaeth. Fodd bynnag, os nad yw’r systemau cywir ar waith, maen nhw’n gallu arwain at fwy o straen neu greu anghydraddoldebau. Bydd y canfyddiadau’n helpu i lywio sut y bydd Cymru’n cyflwyno taliadau uniongyrchol mewn modd teg, diogel ac effeithiol.
Ym mha ffordd y caiff y gwaith ymchwil ei ddefnyddio?
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r dystiolaeth hon er mwyn:
- Paratoi canllawiau a rheoliadau clir ar gyfer sut bydd taliadau uniongyrchol yn gweithio ym maes Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC)
- Helpu i greu systemau cymorth i helpu pobl i reoli eu gofal ac ymdopi â'r cyfrifoldebau a ddaw yn sgîl cael taliadau uniongyrchol
- Helpu i hyfforddi staff ledled Cymru a rhoi arferion cyson ar waith ar draws y wlad
Sut y bydd o fudd yn y byd go iawn?
Gall taliadau uniongyrchol helpu pobl i fyw’n fwy annibynnol a chael gofal sy’n addas i’w bywydau. Bydd hyn yn arbennig o ddefnyddiol i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor neu gymhleth. Os caiff hyn ei wneud yn effeithiol, gall leihau'r pwysau ar wasanaethau ac arwain at ddeilliannau gwell i unigolion a'u gofalwyr.
Prif Ganfyddiadau
- Mae cymorth yn hanfodol: Mae angen help ar bobl i reoli eu cyllidebau, cyflogi gofalwyr a deall eu hopsiynau
- Pwysigrwydd hyfforddiant: Mae angen hyfforddiant priodol ar staff a chynorthwywyr personol i roi gofal diogel ac o ansawdd uchel
- Rhaid i'r wybodaeth fod yn glir: Mae angen canllawiau syml ar bobl ar sut i reoli eu cyllideb a'r hyn y gallai dalu amdano
- Pryderon o ran mynediad cyfartal: Gall y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig neu sydd â llai o adnoddau wynebu mwy o rwystrau o ran cael gafael ar gymorth
- Mae’r dull llywodraethu yn allweddol: Mae angen prosesau/systemau clir a chryf i atal camddefnyddio a gwneud yn siŵr bod pobl yn ddiogel
Casgliad
Gallai taliadau uniongyrchol drawsnewid gofal iechyd drwy roi mwy o reolaeth i bobl dros eu gofal. Fodd bynnag, nid ydyn nhw’n cynnig datrysiad cyflym neu ateb syml. Er mwyn iddyn nhw weithio'n dda yng Nghymru, mae'n bwysig edrych ar systemau presennol ac adeiladu sylfaen gref o gymorth, hyfforddiant da, a chanllawiau clir fel bod taliadau uniongyrchol yn gweithio i bawb.
Awdur: Beti-Jane Ingram, Aelod o Grŵp y Bartneriaeth Gyhoeddus
RES0054